Blog Banner

Williams yn cyfaddef mai'r tîm gorau oedd yn fuddugol

Cymraeg | 5th April 2019


Mae Lloyd Williams yn credu mai’r tîm gorau wnaeth ennill wrth i Munster gipio’r fuddugoliaeth yng Nghorc nos Wener.

Roedd hi’n berfformiad calonogol gan fois Gleision Caerdydd ym Mharc Irish Independent, gyda Tomos Williams, Aled Summerhill a Rey Lee-Lo yn croesi’r gwyn-galch.

Ond, Munster aeth a hi yn y pen-draw, gan sgorio chwe cais i sicrhau y pum pwynt a sicrhau eu lle yn y rownd nesaf yn y Guinness PRO14.

Er gwaethaf ambell i benderfyniad rhwystredig yn erbyn ei dîm, mae Williams yn mynnu fod rhaid iddynt ddadansoddi perfformiad eu hunain cyn gornest enfawr yn erbyn Connacht wythnos nesaf.

Dywedodd y mewnwr rhyngwladol: “Chwarae teg, fe wnaeth Munster chwarae yn hynod o dda heno.

“Roedd yn berfformiad yn dda yn yr hanner cyntaf, er ein bod ni heb gael lot o’r bêl, ond y tîm gorau wnaeth ennill ar y noson.

“Chi wastad am gael nosweithiau lle mae penderfyniadau yn mynd yn eich erbyn chi, a mae hynny lawr i’r dyfarnwyr.

“Ond mae hynny’n rhan o’r gêm, a mae’n rhaid i chi symud ymlaen o hynny.

“Mae hi’n gêm enfawr wythnos nesaf yn Galway, fel mae pob gêm tuag at adeg yma o’r tymor.

“Mae’n rhaid i ni weld sut allwn ni wella o’r gêm heno a mynd draw i Connacht wythnos nesaf i geisio cael y fuddugoliaeth.”