Blog Banner

Williams yn credu fod gan Gleision Caerdydd bwynt i'w brofi yn erbyn Glasgow

15th February 2019


Mae gan Gleision Caerdydd bwynt i'w brofi wrth i Glasgow Warriors ymweld â'r brifddinas nos Sadwrn ar gyfer gêm bwysig yn y Guinness PRO14.

Mae tîm John Mulvihill wedi colli tair gwaith i’r Albanwyr yn y PRO14 ac Ewrop eleni, a gyda’r ras ar gyfer y tri uchaf yn poethi, mae buddugoliaeth yn hanfodol i’r rhanbarth.

Gyda tri aelod o garfan Cymru yn cael eu croesawu yn ôl, mae Williams wedi pwysleisio pwysigrwydd yr ornest ac yn mynnu fod rhaid i’r Gleision gadw eu disgyblaeth yn erbyn tîm Dave Rennie.

“Ni’n edrych ymlaen ar gyfer y gêm nos Sadwrn. Ni wedi colli tair gwaith yn erbyn nhw tymor yma, a mae pawb yn y garfan ac yn y rhanbarth eisiau gweld ni’n curo nhw tro yma, yn enwedig gan ein bod ni gartref. Mae’n gêm enfawr i ni,” meddai’r mewnwr.

“Mae pob gêm o nawr tan diwedd y tymor yn bwysig, a mae hynny’n wir am pob tîm yn y gynghrair.

“Mae’n rhaid i ni wneud y mwyaf o pob gêm, yn enwedig gartref, a cheisio gael y canlyniad.

“Mae ein disgyblaeth wedi bod yn sâl yn y gemau yn erbyn Glasgow tymor yma, yn enwedig i ffwrdd o gartref.

“Mae hynny wedi gadael nhw i mewn i’r gemau, felly ni wedi canolbwyntio ar hynny wythnos yma a ni eisiau chwarae’r gêm yn yr ardaloedd cywir o’r cae.

“Mae nhw’n dîm da, a ni wedi edrych ar y tair gêm blaenorol i weld beth aeth o’i le.

“Mae’n rhaid cychwyn yn gryf gan bod nhw’n dîm mor dda. Os chi’n gadael iddyn nhw fynd ar y blaen yn gynnar, mae’n anodd adeiladu yn ôl i mewn i’r gêm.

“Ni’n canolbwyntio ar ein hunain ac yn ceisio bod y fersiwn gorau posib o’r Gleision. 

“Mae Jarrod [Evans], Josh [Turnbull] a Seb [Davies] yn dod yn ôl i’r tîm, ond ni’n lwcus o gael cryfder yn y safleoedd hynny beth bynnag.

“Bydd cael nhw’n ôl yn y garfan yn hwb i’r tîm, a gobeithio bydden nhw’n gallu cyfrannu yn ystod y gêm.”