Blog Banner

Turnbull yn edrych ymlaen i fynd ben-ben a'i ffrindiau pennaf

Cymraeg | 22nd March 2019


Mae Josh Turnbull yn cyfaddef ei fod e’n edrych ymlaen i fynd ben-ben â rhai o’i ffrindiau pennaf, wrth i Gleision Caerdydd groesawu’r Scarlets i’r brifddinas heno (CG 7.35yh)

Mae disgwyl digon o dân gwyllt ym Mharc yr Arfau wrth i’r ddau dîm frwydro am eu lle yn y chwe olaf yn y Guinness PRO14.

Gyda nifer o sêr y Gamp Lawn yn dychwelyd i’r timau rhanbarthol, mae Turnbull yn teimlo fod y cyfeillgarwch rhwng y chwaraewyr yn ychwanegu gwres at dân y frwydr.

“Mae nifer o ni’n ffrindiau da, a dyw ‘na ddim gwahanol i mi. Fe wnes i wario cryn dipyn o amser gyda Ken Owens a Jake Ball trwy gydol ymgyrch y Chwe Gwlad,” meddai’r blaenwr.

“Bydd hi’n ddiddorol nos Wener, oherwydd bydd digon o dynnu coes pan fydd y gêm yn cychwyn.

“Wythnos diwethaf, roedd Samson Lee yn uchel ei gloch, yn canmol y Scarlets, felly nes i ei atgoffa yn dawel bach beth ddigwyddodd yn y gêm tro diwethaf.

“Mae’n grêt i gael y bois yn tynnu coes, ond nos Wener bydd pawb yn mynd amdani. Dyna sut ti moen y gemau hyn.

“Mae’n wych i gael chwarae yn y gemau darbi, a rwy’n caru cael bod yn rhan o’r achlysur. Mae pawb moen bod yn rhan o’r gemau mawr yn Ewrop a’r gemau darbi.

“Bydd yna fois yn mynd mas i brofi pwynt, os yw nhw heb gael llawer o funudau yn ystod y Chwe Gwlad, a bydd y bois hefyd eisiau perfformio er mwyn creu argraff ar gyfer gweddill y tymor.”

Symudodd Turnbull i ranbarth y prifddinas yn 2014, wedi saith mlynedd gyda’r Scarlets, a mae bellach wedi gwneud dros 100 o ymddangosiadau i’r ddau dîm.

Cafodd y blaenwr ei enwi yn seren y gêm ym mis Rhagfyr, wrth i’r Gleision sicrhau pwynt bonws ym Mharc y Scarlets.

Ond, gyda buddugoliaeth yn hanfodol i obeithion y ddau dîm, mae Turnbull yn disgwyl y bydd  hyder y chwaraewyr rhyngwladol yn rhoi hwb i’r ornest.

“Mae’r bois i gyd yn disgwyl ymlaen i’r gêm a fel grwp o chwaraewyr yma yn y Gleision, mae’n amser hir ers i ni chwarae gyda ein gilydd.

“Mae’r chwaraewyr rhyngwladol yn dychwelyd gyda hyder ar ôl ennill y Gamp Lawn a’r Goron Driphlyg.

“Mae’n gyfnod cyffrous ond mae pedwar gêm galed ar y ffordd. Os ydym ni’n onest fel grwp, rhain fydd y gemau sydd yn diffinio ein tymor.

“Ni mewn safle cryf ar y foment, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siwr bod ni’n perfformio nos Wener.

“Mae’n rhaid i ni gymryd un gêm ar y tro a gobeithio gallwn ni ail-adrodd ein perfformiad o Barc y Scarlets.”