Blog Banner

Turnbull yn disgwyl digon o dân ym Mharc y Scarlets

Cymraeg | 20th August 2020


Mae Josh Turnbull yn disgwyl digon o dân ar y cae rygbi wrth i Gleision Caerdydd ddychwelyd i gystadlu yn y Guinness PRO14 wedi chwe mis o atal ar y chwarae o ganlyniad i’r coronafeirws.

Taith i Lanelli i wynebu’r Scarlets sydd o flaen John Mulvihill a’i ddynion, yn y cyntaf o ddwy gêm ddarbi, gyda gornest yn erbyn y Gweilch i ddilyn ar y penwythnos canlynol.

Mae Turnbull yn cyfaddef nad ydi e’n siwr beth i’w ddisgwyl wrth chwarae o flaen stadiwm wag ym Mharc y Scarlets, ond mae’n hyderus y bydd digon o gystadlu ffyrnig o’r gic gyntaf wrth iddo fynd ben-ben a’i gyn glwb.

Dywedodd y blaenwr rhyngwladol: “Mae un o ffrindiau fi o’r ysgol yn physio lan yn Manchester City, ac o’n i wedi gofyn i fe sut mae’r bois wedi mynd i chwarae, ac oedd e’n dweud eu bod nhw’n mynd mas i wneud job. A dyna beth fydd e i ni.

“Mae’n rhaid i ni greu rhywfath o atmosffer ein hunain. Y ffordd ni am ddod a rhywfaint o atmosffer i’r gêm yw drwy gwneud tacl mawr neu sgorio ceisiau. 

“Bydd e’n anodd heb torf yna ond ni eisiau mynd mas i chwarae nawr, a gobeithio pan fydd popeth yn setlo i lawr y bydd pawb yn ôl mewn yn gwylio gemau yn fyw.

“Does dim llawer o’r bois dal ‘na ers pan o’n i’n y Scarlets - dim ond bois fel Ken [Owens], Jake Ball a Jonathan Davies.

“Ond o’n i wedi cael sgwrs gyda Ken dydd Mercher a oedd e’n ceisio ffeindio mas tîm ni, ac o’n i’n rhoi cwpwl o enwau anghywir iddo fe. 

“Ond mae’r banter dal ‘na yn pob gêm fel hyn. Fi dal yn cofio’r gêm cyntaf i fi chwarae yn erbyn y Scarlets.

“O’n i’n nerfus, ond oedd bach o banter rhwng fi a Ken y diwrnod hwnnw oherwydd nes i gario’r bêl 10 gwaith, a fe wnaeth daclo fi naw gwaith, felly mae e dal yn dweud bod e’n smashio fi trwy’r amser.

“Mae e’n dda i fynd yn ôl yna a fi’n joio’r gemau darbi yn fwy nag unrhyw un arall. Mae nhw’n gemau i ti brofi dy hun.

“Ni eisiau mynd mas i daflu’r bêl a chwarae rygbi agored. Ti ddim yn gwybod beth mae’r tywydd yn mynd i fod ond ni wedi bod yn ymarfer fod eisiau i ni daflu’r bêl o gwmpas a ni eisiau creu problemau i’r Scarlets gyda sut ni am drafod y bêl.

“Ni eisiau mynd mas a cael bach o hwyl a gwneud y job ni heb allu gwneud ers sbel.”

Mae Turnbull hefyd wedi cael cyfle i adlewyrchu ar y cyfnod clo, a mae e wedi gwerthfawrogi’r cyfle euraidd i dreulio mwy o amser gyda’i deulu. Ond mae’n mynnu ei fod yn fwy nag parod i ddychwelyd yn ôl i’w waith o ddydd-i-ddydd ar y cae rygbi.

Ychwanegodd Turnbull: “Roedd pob dydd yn wahanol, a roedd hi’n dda i wario ychydig o amser gyda’r plant a’r wraig.

“Ges i gyfle i greu treehouse i’r plant, a gymrodd hi gwpwl o ddyddie’ i wneud ‘na.

“Ond o’n i’n ceisio cadw’n ffit hefyd oherwydd o’n i ddim yn gwybod faint o amser bydde ni’n mynd i fod i ffwrdd.

“O’n i’n meddwl byddai’n tair neu bedair wythnos ond buan oedd hi’n symud i tri neu bedwar mis tan ein bod ni’n ôl i mewn.

“Ond o’n i’n joio cadw’n ffit a mynd i’r gym yn y garej.”