Blog Banner

Turnbull yn benderfynol o adeiladu ar y fuddugoliaeth dros Benetton

Cymraeg | 18th November 2020


Mae Josh Turnbull yn benderfynol o adeiladu ar y fuddugoliaeth dros Benetton wrth i’w dîm baratoi i wynebu Leinster dros y penwythnos.

Y blaenwr oedd seren y gêm yn yr ornest yng Nghasnewydd, gyda Owen Lane, Ben Thomas a Rory Thornton yn croesi’r llinell galch wrth i dîm John Mulvihill ymateb wedi colli tair gêm yn olynol.

Roedd Turnbull yn hapus i weld ei dîm yn cadw at y cynllun, er gwaethaf y newidiadau munud olaf yn y rheng ôl ar ôl i James Botham gael ei alw i garfan Cymru.

“O’n ni wedi paratoi am gêm fel ‘na, ac yn gwybod byddai Benetton yn dod draw gyda set piece mawr a ni’n falch o sut oedd y bois wedi datblygu y cynllun gêm mas ar y cae,” meddai Turnbull.

“O’n ni wedi siarad yn ystod yr wythnos am pa mor bwysig yw becso am ni’n hunain a gwneud beth ni’n gallu gwneud yn dda.

“Mae hynny’n bwysig yn erbyn tîm fel Benetton, oherwydd mae nhw’n gallu creu problemau a gwneud pethau’n anodd.

“Ond o’n ni’n gwybod ein bod ni’n gallu sgorio ceisiau yn erbyn nhw, yn enwedig yn yr ail hanner pan mae nhw wedi blino, er roedd hi ychydig bach mwy anodd oherwydd y tywydd.

“Oedd hi’n bwysig i gael y canlyniad, yn enwedig cyn paratoi i fynd mas i Leinster wythnos nesaf.

“Ni’n bles i gael y fuddugoliaeth ‘na nawr ond mae’n rhaid symud ymlaen yn gloi a dysgu o beth aeth yn dda yn erbyn Benetton.

“Bydd hi’n sialens dda yn Dulyn, a bydd y bois i gyd yn edrych ymlaen i fynd mas ‘na.

“Mae’r bois wedi bod yn ymarfer yn dda dros yr wythnosau diwethaf, a mae bois fel James Ratti ac Alun Lawrence wedi camu lan yn dda ac yn opsiwn yn y rheng ôl.

“Ni wedi gweld pa mor hawdd yw hi i nhw ddod mewn hynny wythnos diwethaf, gyda Ratti yn dod mewn fel blaen-asgellwr ac Alun yn dod i’r fainc.

“Pob clod i James Botham, mae’n haeddu ei gyfle gyda carfan Cymru.”

Yn ogystal â sicrhau’r fuddugoliaeth, roedd hi’n noson arbennig yn Rodney Parade gyda tri o chwaraewyr yn taro cerrig milltir arbennig yn eu gyrfa. Fe wnaeth Garyn Smith gyrraedd 100 o gemau i’r ranbarth cartref, Owen Lane yn ennill cap rhif 50 a Teddy Williams yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf.

Roedd Turnbull yn falch i weld y tri yn dathlu eu diwrnod arbennig gyda buddugoliaeth, a mae’n hyderus y bydd mwy yn dilyn eu ôl troed, gyda tipyn o chwaraewyr ifanc yn creu argraff wrth ymarfer.

“Pan mae rhywun yn ennill cap rhif 50 neu 100 dros y rhanbarth, chi eisiau mynd mas ‘na i rhoi perfformiad mewn i nhw,” ychwanegodd Turnbull.

“Mae’r bois yna yn haeddu popeth mae nhw’n cael. Mae nhw wedi gweithio yn galed i gyrraedd fan hyn.

“Mae Garyn yn un o’r chwaraewyr ifancaf i gael 100 o gapiau dros y Gleision a mae’n dangos fod bois yn dod trwyddo ac er bod nhw’n ifanc mae llawer o brofiad gyda nhw hefyd.

“Mae’n dangos fod yr academi yn gweithio a mae llawer o fois ifanc wedi bod yn ymarfer gyda’r tîm cyntaf dros yr wythnosau diwethaf.

“Mae nhw eisiau bod yma, mae nhw eisiau chwarae. Mae Teddy Williams wedi chwarae ei gêm cyntaf wythnos yma a mae bois ifanc fel Gwilym Bradley ac Alex Mann wedi bod yn ymarfer gyda ni.

“Mae nhw’n dod trwyddo ac yn rhoi pwysau ar y chwaraewyr hynnaf yn y garfan.”