Blog Banner

Rhaid i Gleision Caerdydd A ddysgu gwers yn dilyn Leinster - Jones

17th September 2018


Mae Lewis Jones yn mynnu bod rhaid i Gleision Caerdydd A ddysgu eu gwers ar ôl y golled i Leinster A dros y penwythnos.

Mae tîm Richie Rees yn paratoi i groesawu Ulster A i Barc yr Arfau Caerdydd prynhawn Sadwrn, ar gyfer y gêm gartref cyntaf y tîm yn y Cwpan Celtaidd.

Er gwaethaf y sgôr yn Nulyn, mae Jones yn credu gall ei dîm fod yn positif gyda ambell agwedd o’u gêm ym Mharc Energia, a bydd y gêm yn erbyn Ulster yn gyfle perffaith i ymateb.

“Mae yna llawer o wersi i’w dysgu o’r gêm yn erbyn Leinster A. Pan chi’n wynebu tîm fel hyn, mae’n rhaid i chi fod ar eich gêm, ac yn anffodus oedd ein perfformiad ni ddim lan i’r safon sydd angen,” meddai’r mewnwr.

“Roedd y sgrym yn bositif, yn sicr roedd y bois wedi gwneud yn dda yn yr agwedd yna. Ond mae yna ddigon i weithio arno - mae’n rhaid i ni wella gyda’n llinellau, a mae’n rhaid cadw’r bêl yn well.

“Y pethau gorau am y gystadleuaeth yma yw ni’n gallu mynd eto wythnos nesaf. Mae ‘da ni pedair gêm ar ôl i chwarae, felly gallwn ni gymryd beth ni wedi ddysgu heddiw yn erbyn tîm cryf fel Leinster, a symud ymlaen.

“Mae’n rhaid i ni fynd yn ôl i ymarfer yn galed a cael wythnos dda fel carfan cyn ein gêm gyntaf gartref.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n ymateb yn bositif ac yn gwneud ein gorau i wneud hynny gyda canlyniad yn erbyn Ulster.

“Os yw’r chwaraewyr yma moyn chwarae i’r tîm cyntaf, mae’n rhaid i ni roi pethau’n gywir wythnos nesaf.

“Ond mae’n rhaid i ni wneud hynny fel tîm. Does dim pwynt mynd mas fel unigolion. Bydd rhaid cadw dynn fel tîm a symud ymlaen!”

Bydd y Cwpan Celtaidd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar Barc yr Arfau wythnos nesaf, wrth i Gleision Caerdydd A groesawu Ulster A i'r brifddinas brynhawn Sadwrn, Medi 22. Bydd tocynnau ar werth ar wefan Gleision Caerdydd NAWR, a mae mynediad wedi cael ei gynnwys yn rhan o becyn Aelodaeth Tymor 2018/19.