Blog Banner

Rhaid dysgu sut i ennill y gemau tynn - Turnbull

Cymraeg | 3rd March 2021


Mae angen i Gleision Caerdydd ddysgu sut i sicrhau buddugoliaeth mewn gemau tynn, yn ôl Josh Turnbull.

Yn dilyn cais Seb Davies a pwyntiau o droed Ben Thomas, roedd tîm Dai Young ar y blaen ar ôl 55 munud yn erbyn Munster nos Wener.

Ond fe wnaeth yr ymwelwyr weithio eu ffordd yn ôl i’r ornest, gyda cais hwyr Niall Scannell yn gadael y tîm cartref yn wag-law.

Ellis Jenkins oedd seren y gêm, tra roedd nifer o chwaraewyr ifanc y garfan wedi creu argraff, a mae Turnbull yn credu fod ei dîm yn gallu bod yn bositif am agweddau o’u gêm ym Mharc yr Arfau.

“Ni’n siomedig achos ni’n gwybod beth mae timau o Iwerddon yn gallu gwneud yn y 10 munud olaf,” meddai Turnbull.

“Mae’n nhw’n gallu cloi lawr y gêm fel yna a roedd Connacht wedi gwneud yr un peth wythnos diwethaf.

“Mae’n anodd i’w gymryd, achos o’n ni yn y gêm tan y dau funud olaf.

“Ond fydd e’n brofiad da i’r bois ifanc i fod mas ‘na, fel Theo Bevacqua, Mason Grady, Ben Thomas a Jamie Hill.

“Fi’n browd iawn o’r bois i gyd ond ni ddim wedi gael y canlyniad ar diwedd y dydd.

“Roedd e’n bleser i weld Ben Thomas a Jamie Hill yn sefyll lan. Roedd Jamie yn gloi i lwytho’r bêl mas o’r ryc, a roedd Ben yr un peth.

“O’n i’n credu fod Mason Grady wedi cario’r bêl yn dda a gobeithio gawn ni weld mwy ohonyn nhw dros y flwyddyn nesaf achos mae nhw’n chwaraewyr da gyda lot o botensial.

“Mae perfformiadau Ellis ers iddo ddod yn ôl o’r anaf yn y ddwy gêm diwethaf wedi bod yn wych.

“Mae’n parhau i dyfu nawr a mae’n bleser i weld ‘na. Mae e ar ei ffordd yn ôl i fod y chwaraewr oedd e cyn yr anaf.

“Mae’r cae yn teimlo yn grêt a mae’n grêt i fod yn ôl mas ‘na. 

“Ond o’n ni ychydig bach yn rhy araf yn dod yn ôl i mewn i’r gêm yn yr ail hanner. Daeth Munster yn ôl i mewn i’r gêm a roedd hynny’n anodd i ni.

“Fel tîm, mae’n rhaid i ni ddysgu yn glou sut i greu fwy o gyfleuon a sgorio mwy o geisiau.

“Mae’r ddau gêm nesaf yn bwysig i ni a gobeithio bydd canlyniadau eraill yn mynd o’n plaid ni dros yr wythnosau nesaf.

“Mae’n bwysig i ni dyfu fel tîm a newid y ffordd ni moen chwarae.”

Ar lefel bersonol, roedd hi’n noson arbennig i Turnbull, wrth iddo wneud ei 150fed ymddangosiad dros y clwb.

Mae’r blaenwr rhyngwladol yn falch o’i garreg filltir diweddaraf a mae’n mynnu ei fod yn parhau i fwynhau ei rygbi: “Siomedig i beidio cael y fuddugoliaeth yn gyntaf, ond fi’n browd iawn o gyrraedd y 200.

“Fi’n mwynhau bod yma gyda’r bois ifanc yma a mae nhw’n cadw fi ar blaenau fy nhraed.

“Dyna fi’n mwynhau a mae’n bleser i ddod i mewn i’r gwaith pob dydd.”