Blog Banner

Rhaid dysgu i warchod meddiant yn well - Turnbull

Cymraeg | 23rd August 2020


Mae Josh Turnbull yn mynnu fod rhaid i Gleision Caerdydd ddysgu i warchod meddiant yn well, yn dilyn perfformiad siomedig yn erbyn Scarlets.

Roedd y blaenwr yn gapten ar ei dîm yn erbyn ei gyn-glwb wrth i ddynion John Muvihill ddychwelyd i chwarae rygbi am y tro cyntaf ers chwe mis, yn dilyn cyfnod clo.

Gyda gornest yn erbyn y Gweilch wythnos nesaf, mae’r chwaraewr rhyngwladol yn dweud fod rhaid i’w dîm wella mewn amryw o ardaloedd, a cheisio adeiladu momentwm wrth i’r gêm fynd yn ei blaen.

Dywedodd Turnbull: “Ni’n siomedig gyda’r perfformiad a mae lot o waith i ni wneud wythnos hyn cyn mynd i mewn i’r gêm wythnos nesaf yn erbyn y Gweilch.

“Yn enwedig yn ardal y dacl, rhywbeth sydd yn holl bwysig i’r gêm.

“Os ti moen creu problemau a rhoi pwysau ar y tîm arall, mae’n rhaid i ni gadw’r bêl.

“Mae’r dorf yn creu argraff mewn gemau fel hyn a mae nhw’n gallu troi gemau ambell waith.

“Heddiw oeddet ti’n gallu clywed y bois i gyd yn siarad gyda’i gilydd a roedd e’n teimlo fel gêm pre-season.

“Oedd hynny’n siomedig a mae’n rhaid i ni ddod mas o’r blocs wythnos nesaf. Gallwn ni beni tymor ‘ma a cychwyn y flwyddyn newydd mewn mis neu ddau.

“Mae e’n anodd i beidio cael torf yna, ond pan ti’n ennill y ‘little battles’ fel ni’n galw nhw, fel troi’r bêl drosto, rhoi shot mawr i mewn neu sgorio cais, mae’n dod a’r bois at ein gilydd.

“Dyna sut ti’n dod ag atmosffer i mewn i’r grwp.”

Gyda rheloau newydd wedi cael eu cyflwyno yn ardal y dacl, mae Turnbull yn disgwyl y bydd hi'n llawer mwy cystadleuol yn y ryciau, a mae'n cyfaddef y bydd hi'n amhosib i'r Gleision chwarae gyda rhyddid os nad ydi nhw'n llwyddo i gadw gafael ar y meddiant.

"Yn ardal y dacl, ar ein pêl ni, mae’n anodd pan ni’n cael ein troi drosto, felly mae’n rhaid i ni edrych ar ôl y bêl.

"Ambell waith oedd e’n rhy hawdd i’r Scarlets i ddod mas gyda’r bêl a dwyn hi.

"Mae’n rhaid i ni fynd trwy’r cymalau a rhoi pwysau ar y timau eraill, neu bydden ni ddim yn sgorio’r ceisiau ni’n gallu."