Blog Banner

Rhaid bod ar ein gorau yn erbyn Connacht - Williams

Cymraeg | 9th October 2020


Bydd rhaid i Gleision Caerdydd fod ar eu gorau pan yn wynebu Connacht yn Rodney Parade nos Sadwrn, meddai’r mewnwr Lloyd Williams.

Er gwaethaf cerdyn coch i Josh Turnbull, fe wnaeth tîm John Mulvihill gychwyn y tymor gyda buddugoliaeth yn erbyn Zebre wythnos diwethaf.

Mae Williams yn mynnu fod rhaid i’w dîm barhau i berfformio o’r funud cyntaf yn ystod gemau tymor yma, wrth iddynt geisio adeiladu ar y fuddugoliaeth agoriadol.

“Roedd y bechgyn yn bles fod ni’n gallu ennill mas yn Yr Eidal, ac yn y gorffennol ni wedi dod i ffwrdd o’r Eidal gyda canlyniad gwahanol,” meddai’r mewnwr rhyngwladol.

“Yn enwedig ar ôl colli un dyn yn gynnar yn yr ail hanner, o’n ni’n bles i gychwyn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth, ond mae dal lot o bethau i weithio arnyn nhw cyn penwythnos yma.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, ni wedi bod ychydig bach yn wan yn dechrau felly nawr, yn fwy nag unrhyw beth, ni eisiau cychwyn gemau yn gryf.

“Yn edrych yn ôl ar canlyniadau o’r gorffennol, ni wedi ildio lot o bwyntiau yn yr hanner awr cyntaf o’r gemau.

“Felly mae’n bwysig i ni, nid yn unig i gychwyn y tymor yn dda, ond i gychwyn y gemau yn dda hefyd.

“Mae’n rhaid i pawb weithio yn hynod o galed i guro tîm fel Connacht. Mae nhw’n cicio’r bêl yn fwy na’r arfer felly mae hynny’n rhoi rhywbeth i’r cefnwyr feddwl amdano.

“Mae pawb wedi ystyried pa mor anodd fydd y gêm a bydd rhaid i ni chwarae mor dda ag y gallen ni er mwyn ennill y gêm.”

Wythnos yma cafodd o chwaraewyr Gleision Caerdydd eu henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref - gyda Rhys Carré, Dillon Lewis, Cory Hill, Seb Davies, Josh Navidi a Josh Adams.

A thra fod siom i chwaraewyr fel Williams, Jarrod Evans ac Hallam Amos, mae’r mewnwr yn hyderus y gall hynny weithio o blaid rhanbarth y prifddinas.

“Mae’n siomedig fod rhai o’r bois ddim wedi cael eu dewis i’r garfan, ond ar y llaw arall mae’n dda i’r Gleision oherwydd mae siawns i ni chwarae rygbi gyda’n gilydd,” meddai Williams.

“Fel arfer mae nifer o fechgyn ar goll am sbel eithaf hir a mae’n anodd i ffitio pethau’n ôl i mewn.

“Pob lwc i’r bechgyn sydd wedi eu dewis, ond fel carfan gallwn ni fod yn bles fod yr un bechgyn yn yr ystafell newid am y misoedd nesaf.

“Mae lot o ddyfnder yma. Mae ychydig o anafiadau ar hyn o bryd, yn enwedig yn yr olwyr gyda bois fel Owen Lane a Jason Harries.

“Ond mae ymarfer yn galed a dyna beth chi moen fel chwaraewr. Y mwyaf o gystadleuaeth sydd wrth ymarfer pob dydd, gobeithio gall hynny drosglwyddo i mewn i’r gêm.”