Blog Banner

Millard yn edrych ymlaen i wynebu sêr rhyngwladol Glasgow

12th January 2019


Mae Harri Millard yn edrych ymlaen ar gyfer y sialens o'i flaen, wrth i Gleision Caerdydd deithio i Glasgow dros y penwythnos.

Mae Glasgow wedi enwi llu o chwaraewyr rhyngwladol ymysg eu olwyr ar gyfer y gêm prynhawn dydd Sul, gan gynnwys Stuart Hogg and Tommy Seymour, sydd wedi cynrychioli'r Llewod.

Ar ôl chwarae ei gêm gyntaf yn Ewrop yn erbyn pencampwyr Lloegr, Saracens, yn gynharach eleni, mae Millard yn gobeithio cymryd ei gyfle gyda dwy law er mwyn ceisio creu argraff ar y tîm hyfforddi.

“Ni’n disgwyl sialens caled yn erbyn Glasgow ond ni’n gorfod teithio lan a mynd a’r gêm atyn nhw a gall unrhyw beth ddigwydd mewn sefyllfa fel yna,” meddai Millard.

“Bydd angen i ni daflu’r bêl o gwmpas rhywfaint, chwarae yn yr ardaloedd cywir a gobeithio bydd hynny’n arwain at berfformiad cryf.

“Fi’n disgwyl wynebu chwaraewyr o safon wythnos yma, a mae'n gyfle gwych i chwarae yn erbyn bois fel Stuart Hogg a Tommy Seymour.

“Mae nhw’n chwaraewyr cyffrous, a rwy’n mwynhau gwylio nhw’n chwarae, felly bydd chwarae yn erbyn pobl fel yna yn bleser.

“Mae’n brofiad da i chwaraewyr ifanc fel fi i gael bod yn rhan o’r garfan yn ystod wythnosau fel hyn a cael rhywfaint o amser mewn gemau, a fi wedi bod yn dysgu lot gan chwaraewyr fel Willis Halaholo a Rey Lee-Lo yn ystod ymarfer.

“Mae hi’n bwysig i mi gymryd y siawns pan mae nhw’n dod er mwyn ceisio cael mwy o gemau dros y tymor a cystadlu am fy lle yn y tîm.”