Blog Banner

Lewis yn edrych ymlaen i ddychwelyd i Barc yr Arfau

Cymraeg | 16th January 2020


Mae Dillon Lewis yn edrych ymlaen i ddychwelyd i chwarae ym Mharc yr Arfau am y tro cyntaf ers mis Mawrth, wrth i’w dîm herio Calvisano yn Cwpan Her Ewrop dydd Sadwrn.

Y tro diwethaf i’r prop chwarae yng nghartref Gleision Caerdydd oedd fel eilydd yn ystod y fuddugoliaeth wefreiddiol yn erbyn y Scarlets tymor diwethaf.

Ar ôl bod yn rhan o garfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Siapan, a chwarae yn erbyn y Barbarians ym mis Tachwedd, cafodd Lewis anaf i linyn y gar wrth ymarfer gyda’r rhanbarth.

Yn dilyn ymddangosiad yn erbyn Leicester Tigers penwythnos diwethaf, cafodd Lewis ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a mae’n edrych ymlaen i gael cynrychioli ei ranbarth unwaith eto yn erbyn yr Eidalwyr.

“Mae’n dda i gael fy enwi yn y garfan. Fi wedi cael anaf yn ddiweddar, felly fi’n falch i ddod yn ôl o’r anaf yna a cael cwpwl o gemau o dan y belt cyn mynd i mewn i’r camp wythnos nesaf,” meddai’r prop.

“Mae’r anaf wedi dod ymlaen yn dda ac yn gynt na'r disgwyl. Fi wedi cael 50 mund dros y penwythnos yn erbyn Leicester, felly oedd hynny yn dda.

“Fi’n chwarae eto wythnos hyn a fi’n edrych ymlaen i fynd yn ôl i mewn i’r rygbi.

“Byddai’n cael mwy o munudau ar y cae wythnos hyn a fi’n edrych ymlaen i fynd allan ar Parc yr Arfau. Fi heb chwarae yma ers amser hir, felly mae’n gyffrous.”

Mae Lewis yn un o saith o sêr Gleision Caerdydd i gael eu cynnwys yng ngharfan Wayne Pivac ar gyfer y Chwe Gwlad.

Mae'r prop yn edrych ymlaen i weithio gyda'r tîm hyfforddi newydd, wrth iddo frwydro â Leon Brown a Will Griff John am y crys rhif tri.

“Sai’n gallu aros nawr i fynd i mewn i’r camp. Mae hyfforddwyr newydd gyda ni, a ti ddim yn gallu gwybod beth mae’n nhw’n meddwl.

“Fi wedi cael llawer o capiau mewn amser byr a mae’n amser cyffrous i’r chwaraewyr ifanc, ond mae chwaraewyr fel Alun Wyn Jones a Justin Tipuric yn ychwanegu llawer o brofiad i’r tîm

“Bydd hi’n dda i weld be sydd yn digwydd yn y camp tro yma.

“Mae tri chwaraewr ifanc yn y safle yma tro hyn, a gyda Tomas Francis wedi cael anaf, mae siawns i’r tri ohona ni i roi dwylo lan I gael y crys i ddechrau.

“Mae’n sialens cyffrous a fi’n edrych ymlaen ato fe.”