Blog Banner

Lewis-Hughes ac Halaholo yng ngharfan Cymru i wynebu'r Barbarians

Cymraeg | 19th November 2019


Mae gan Willis Halaholo a Shane Lewis-Hughes gyfle i wneud eu ymddangosiad cyntaf dros Gymru, ar ôl cael eu enwi yn y garfan o 35 chwaraewr i wynebu y Barbarians wythnos nesaf.

Mae’r ddau wedi cael eu dewis yng ngharfan cyntaf y prif hyfforddwr newydd, Wayne Pivac, ac yn ymuno â saith o chwaraewyr eraill Gleision Caerdydd.

Ymysg y cefnwyr, mae Halaholo wedi cael ei enwi gyda chwaraewyr newydd y Gleision, Hallam Amos a Josh Adams, yn ogystal a Tomos Williams, Jarrod Evans ac Owen Lane, sydd wedi graddio o’r academi.

Daeth y canolwr yn gymwys i chwarae dros Gymru yn gynharach eleni, ar ôl symud i’r brifddinas yn 2016, a mae wedi ffurfio partneriaeth cryf yng nghanol y cae gyda Rey Lee-Lo.

Yn ymuno â Lewis-Hughes yn y blaenwyr mae Dillon Lewis a Seb Davies, gyda wyth o’r garfan wedi cael eu datblygu o fewn system Gleision Caerdydd.

Mae’r rheng-ôl ifanc wedi serennu dros ei ranbarth yn wythnosau agoriadol y tymor, gan chwarae ei ran yn y saith gêm hyd yn hyn.

Y chwaraewyr eraill di-gap i gael eu cynnwys yn y garfan yw'r Taine Basham a Ashton Hewitt o'r Dreigiau a chefnwr y Scarlets, Johnny McNicholl.

Carfan Cymru i wynebu'r Barbarians (Sadwrn, Tach 30, CG 14.45)

Blaenwyr:

Elliot Dee (Dreigiau) (29 Cap)

Ryan Elias (Scarlets) (9 Cap)

Ken Owens (Scarlets) (73 Cap)

Rob Evans (Scarlets) (36 Cap)

Wyn Jones (Scarlets) (22 Cap)

Nicky Smith (Gweilch) (35 Cap)

Leon Brown (Dreigiau) (6 Cap)

Samson Lee (Scarlets) (41 Cap)

Dillon Lewis (Gleision Caerdydd) (22 Cap)

Jake Ball (Scarlets) (42 Cap)

Adam Beard (Gweilch) (20 Cap)

Bradley Davies (Gweilch) (66 Cap)

Seb Davies (Gleision Caerdydd) (7 Cap)

Taine Basham (Dreigiau) (Di-Gap)

Ollie Griffiths (Dreigiau) (1 Cap)

Shane Lewis-Hughes (Gleision Caerdydd) (Di-gap)

Ross Moriarty (Dreigiau) (41 Cap)

Aaron Shingler (Scarlets) (26 Cap)

Justin Tipuric (Gweilch) (72 Cap)

Aaron Wainwright (Dreigiau) (18 Cap)

Cefnwyr:

Aled Davies (Gweilch) (20 Cap)

Gareth Davies (Scarlets) (51 Cap)

Tomos Williams (Gleision Caerdydd) (16 Cap)

Sam Davies (Dreigiau) (8 Cap)

Jarrod Evans (Gleision Caerdydd) (3 Cap)

Willis Halaholo (Gleision Caerdydd) (Di-gap)

Hadleigh Parkes (Scarlets) (25 Cap)

Owen Watkin (Gweilch) (22 Cap)

Owen Lane (Gleision Caerdydd) (2 Cap)

Josh Adams (Gleision Caerdydd) (21 Cap)

Steff Evans (Scarlets) (13 Cap)

Ashton Hewitt (Dreigiau) (Di-gap)

Johnny McNicholl (Scarlets) (Di-gap)

Hallam Amos (Gleision Caerdydd) (22 Cap)

Leigh Halfpenny (Scarlets) (85 Cap)