Blog Banner

Lane yn ymuno â charfan Cymru

Cymraeg | 22nd October 2019


Mae Owen Lane wedi ymuno â charfan Cwpan y Byd Cymru yn dilyn anaf Josh Navidi.

Fe wnaeth yr asgellwr sgorio cais ar ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon dros yr haf, a bydd yn ymuno â’r garfan wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y rownd gyn-derfynol yn erbyn De Affrica.

Ar ôl methu allan ar y daith i Japan yn wreiddiol, dychwelodd Lane i chwarae dros Gleision Caerdydd yn y Guinness PRO14, gan sgorio cais yn erbyn Caeredin ym Mharc yr Arfau.

Mae'r cynyrch academi Gleision Caerdydd wedi croesi am 18 cais mewn 41 ymddangosiad i’w ranbarth cartref hyd yn hyn.

Dywedodd prif hyfforddwr Gleision Caerdydd, John Mulvihill: “Ni gyd yn siomedi dros Josh, yn dilyn ei anaf, ond gallai e fod yn hynod falch o bopeth mae e wedi gyflawni a chyfrannu mas yn Japan, a ni’n falch ohono fel rhanbarth.

“Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Josh wedi bod yn un o’r chwaraewyr gorau a mwyaf cyson Cymru, a mae e wedi parhau hynny ar y llwyfan mwyaf.

“Gobeithio y bydd yn dychwelyd i Gleision Caerdydd fel enillydd Cwpan y Byd ac y cawn ni ei weld yn y dyfodol agos.

“Mae’n anffodus i Josh, ond mae’n agor y drws i Owen, oedd yn anlwcus i fethu allan yn wreiddiol. Chi byth eisiau ymuno â’r garfan mewn amodau fel hyn, ond mae gan Laney gyfle gwych nawr a mae’n llawn haeddu cael ei gynnwys.

“Fe yw’r asgellwr sydd wedi disgleirio yng Nghymru dros y 18 mis diwethaf. Sgoriodd e gais ar ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf dros yr haf a mae wedi parhau hynny ym Mharc yr Arfau yn erbyn Caeredin.

“Gobeithio gall Laney ddangos beth mae'n gallu gwneud yn yr wythnosau nesaf a chreu argraff fel mae ei gyd-chwaraewyr rhanbarthol Josh Adams, Tomos Williams a Dillon Lewis wedi gwneud."