Blog Banner

Gleision Caerdydd wedi gadael hi rhy hwyr yn Ulster meddai Turnbull

Cymraeg | 28th October 2019


Mae Josh Turnbull yn cyfaddef fod Gleision Caerdydd wedi gadael hi'n rhy hwyr yn eu gornest Guinness PRO14 yn erbyn Ulster nos Wener.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o 17 pwynt erbyn yr egwyl yn dilyn ceisiau cynnar i Luke Marshall a Billy Burns.

Brwydrodd tîm John Mulvihill yn ôl i mewn i’r gêm yn yr ail hanner, gyfda Aled Summerhill a Will Boyde yn croesi’r gwyngalch, ond roedd tri cic cosb gan John Cooney yn golygu fod y Gleision yn gadael Stadiwm Kingspan yn waglaw.

Mae Turnbull yn cyfaddef fod y tîm yn siomedig gyda camgymeriadau syml ac yn mynnu fod rhaid iddynt fod yn fwy clinigol wrth ymosod.

“O ni’n ffili rhoi pwysau arnyn nhw, yn ffili mynd trwy’r cymalau ac yn colli’r bêl yn rhy aml,” meddai’r blaenwr.

“Mae hynny’n gwneud hi’n anodd i sgorio pan chi yn eu hanner nhw, a ni wedi gweld hynny yn yr hanner cyntaf.

“Roeddem ni lawr yn hanner nhw am gyfnodau hir, a gyda cyfleuon wrth yrru o’r llinell, ond wedi methu cymryd y pwyntiau.

“Mae’n rhaid i ni gadw’r bêl, mynd trwy’r cymalau a rhoi’r pwysau ar y tîm arall.

“Pan oedd Ulster yn rhoi pwysau arnom ni, oeddem ni’n rhoi ciciau cosb i ffwrdd, a o hynny oedd nhw’n cicio’r pwyntiau neu yn mynd i’r gornel a dod i ffwrdd gyda’r pwyntiau.

“Mae’n siomedig bod ni heb lwyddo i berfformio tan yr ail hanner.

“Fel meddai Nick Williams yn yr ystafell newid, ni wedi dangos y gorau a’r gwaethaf wrth ymosod, a mae’r un peth yn wir am ein amddiffyn.

“Mae lot o bethau i weithio arno.

“Mae Peely [Dwayne Peel] yn hyfforddi ymosod Ulster, a mae nhw’n dod yn fyw ar ôl ennill y bêl a gwrth-ymosod. Yn debyg i ni, mae nhw’n mwynhau chwarae gyda’r bêl trwy’r dwylo.

“Yn gorfforol roeddem ni cystal â Ulster, ond mae’n rhaid i ni ddarganfod lefel uwch dros y cwpwl o wythnosau nesaf.”

Mae Gleision Caerdydd yn dychwelyd i Barc yr Arfau dros y pythefnos nesaf, gan groesawu Munster a Cheetahs i’r brifddinas.

Gyda’r ddau dîm ar brig eu grwpiau yn y PRO14, mae Turnbull yn cyfaddef y bydd hi’n dasg anodd ond mae’n hyderus gall y grwp ymateb.

Dywedodd y blaenwr rhyngwladol: “Bydd hi’n gemau anodd yn erbyn Munster a Cheetahs, dyw hi ddim yn mynd yn haws.

“Mae nhw’n ddau dîm sydd yn mynd yn dda blwyddyn yma, yn enwedig Cheetahs.

“Ond byddwn ni’n parhau i gymryd un gêm ar y tro a ni eisiau rhoi’r camgymeriadau syml yn iawn wrth fynd mewn i’r gêm yn erbyn Munster wythnos nesaf.

“Mae grwp ifanc ond tynn gyda ni yma a mae’n rhaid dod at ein gilydd wythnos nesaf.

“Ni’n mynd yn ôl i ymarfer wythnos yma ac eisiau gweithio ar gael gwared o’r camgymeriadau syml o’n gêm.

“Ar ôl tair gêm oddi-cartref yn y pedair gêm cyntaf, mae’n rhaid i ti fynd ymlaen gyda’r amserlen. Ni’n grwp tynn o fois a bydden ni’n mynd yn ôl i’r cae ymarfer wythnos hyn i gywiro ein gêm.”