Blog Banner

Gleision v Scarlets cynnig i aelodau'r Urdd

13th October 2010


Ar drothwy'r ornest yn erbyn y Scarlets ar nos Wener 22ain o Hydref am 8.05pm, mae Gleision Caerdydd, ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru, yn cyflwyno cynnig arbennig i'w haelodau

Ar drothwy'r ornest yn erbyn y Scarlets ar nos Wener 22ain o Hydref am 8.05pm, mae Gleision Caerdydd, ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru, yn cyflwyno cynnig arbennig i'w haelodau

Gall pob aelod o’r Urdd yng Nghaerdydd a’r Fro, Morgannwg a De Powys fanteisio ar y cynnig i brynu un tocyn a derbyn un tocyn am ddim am y gêm.

Bydd Y Gleision yn dathlu pob dim Cymreig ar noson y gêm ac fe fydd Ardal y Cefnogwyr yn llawn gweithgareddau gan gynnwys cerddoriaeth fyw, adloniant i blant a dawnsio Cymreig. Fe fydd amryw o stondinau yn gwerthu nwyddau o Gymru.

Mae’n argoeli i fod yn frwydr danboeth arall rhwng y gwrthwynebwyr rhanbarthol Cymreig wrth i’r ddau dîm obeithio dringo tabl cynghrair Magners, felly, os ydych chi’n aelod o’r Urdd, gwnewch yn siwr eich bod yn manteisio ar y cyfle yma.

Ffoniwch swyddfa docynnau Stadiwm Dinas Caerdydd ar 0845 345 1400 gan ddyfynnu URDD a’ch rhif aelodaeth i fanteisio ar y cynnig i brynu un tocyn a derbyn un tocyn am ddim, neu dangoswch eich cerdyn aelodaeth yr Urdd ar ddiwrnod y gêm.

Beth yw'r Urdd?

Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad cyffrous a deinamig i blant a phobl ifanc. Mae’n trefnu amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru. Mae 16 o swyddogion datblygu yn gweithio ym mhob ardal er mwyn sicrhau bod rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chynnig i blant a phobl ifanc

Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’n rhoi cyfle i ieuenctid Cymru fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddysgu parchu ei gilydd a phobloedd y byd.