Blog Banner

Gleision Caerdydd yn ysu i guro mwy o dlysau - Turnbull

Cymraeg | 25th March 2019


Ar ôl cael blas o lwyddiant yng Nghwpan Her Ewrop llynedd, mae Josh Turnbull yn mynnu fod Gleision Caerdydd yn ysu i ychwanegu i’w casgliad o dlysau.

Dim ond tair gêm sydd yn weddill o’r tymor, a mae tîm John Mulvihill yn parhau i gystadlu am eu lle yn y chwe olaf yn y Guinness PRO14.

Ar ôl buddugoliaeth a pwynt bonws yn erbyn y Scarlets nos Wener, mae’r Gleision yn parhau i fod yn gyfartal ar bwyntiau gyda Connacht yn y trydydd safle.

Mae Turnbull yn credu gall ei dîm gymryd hyder o’r fuddugoliaeth dros y Scarlets, ond mae’n pwysleisio’r pwysigrwydd o ganolbwyntio ar un gêm ar y tro.

“Roedd hi’n dda i ennill Cwpan Her Ewrop blwyddyn diwethaf, ond ni eisiau mynd cam yn bellach yn y gynghrair a ni gyd yn edrych ymlaen am y cyfle i wneud hynny,” meddai’r chwaraewr rhyngwladol.

“Mae hon yn fuddugoliaeth pwysig yn erbyn y Scarlets, ond ni eisiau parhau i gymryd pob gêm ar y tro a nawr ni’n edrych ymlaen i chwarae Munster mewn pythefnos.

“Ni ddim yn gallu edrych rhy bell ymlaen at y gemau yn erbyn Connach a’r Gweilch oherwydd Munster yw’r her nesaf o’n blaenau.

“Cyn y gêm, fel tîm roeddem ni’n gwybod bod rhaid i ni droi lan.  Roedd hi wastad am fod yn gêm gyffrous felly roedd rhaid dechrau yn gryf, a dyna wnaethom ni lwyddo i wneud.

“Oedd hi’n dda gweld popeth ni wedi ymarfer yn gweithio ar y cae. Roeddem ni’n disgwyl iddyn nhw ddod lan yn gyflym o’r llinell amddiffynol, felly roedd hi’n fater o chwarae o amgylch hynny.

“Roedd Jarrod Evans yn wych a wedi llwyddo i roi’r olwyr mewn lle trwy gydol y gêm.

“Hyd yn oed gyda’r sgôr hanner amser, roeddem ni’n ymwybodol bod chwaraewyr cryf ar y fainc fel Ken Owens, Rob Evans a Gareth Davies, a bydd cyfle iddyn nhw newid y gêm.

“Fe aeth y sgrymiau ychydig yn fler yn yr ail hanner, oedd yn dda i ni oherwydd roedd hynny’n bwyta amser ar y cloc.

“Roedd ein amddiffyn ni yn wych a ni’n hapus iawn i rwystro’r Scarlets rhag sicrhau pwynt bonws o’r gêm.”

Croesodd Turnbull y linell gais yn erbyn ei gyn-ranbarth, wrth i’r tîm cartref sicrhau 38-pwynt o fantais erbyn diwedd yr hanner cyntaf.

Mae’r blaenwr yn cyfaddef bod y cyfeillgarwch rhwng chwaraewyr y timau Cymreig yn golygu fod y gemau hyn yn cynnwys sbeis ychwanegol i pob gornest.

“Dros y cwpwl o wythnosau diwethaf, mae bois fel Samson Lee a Rob Evans wedi bod yn canmol y Scarlets, gan wybod bod y gêm yma ar ei ffordd. 

“Felly mae’n dda i gadw nhw yn dawel am y tro a cael yr hawl i frolio rhywfaint.

“Ar gyfer y cais, roeddwn i’n bod yn ddiog yn aros ar yr asgell dde, a diolch byth fe wnaeth Owen Lane gario’r bêl yn gryf a llwyddo i gael y bêl mas o’r dacl. Fe wnaeth y gwaith caled i gyd!”