Blog Banner

Gall Gleision Caerdydd fod yn bositif wrth deithio i Glasgow - Harries

23rd November 2018


Mae Jason Harries yn credu fod gan Gleision Caerdydd ddigon o reswm i fod yn bositif, wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Glasgow Warriors yn Stadiwm Scotstoun nos Wener.

Wedi pythefnos heb gêm, mae tîm John Mulvihill yn dychwelyd i rygbi cystadleuol, a mae nhw wedi sicrhau pump buddugoliaeth yn y saith gêm ddiwethaf.

Mae’r asgellwr yn disgwyl gêm agored a chyffrous yn Scotstoun, ac yn mynnu y bydd rhaid i’w dîm fod ar eu gorau i gipio’r fuddugoliaeth.

“Ni wedi ennill pump mas o saith diwethaf ni, a mae lot o hyder o fewn y garfan, yn enwedig ar ôl maeddu Zebre a peidio gadael iddyn nhw sgorio pwynt,” meddai Harries.

“Bydd rhaid i ni gymryd yr hyder ‘na i mewn i’r gêm yn erbyn Glasgow nos Wener.

“Mae nhw’n dîm da. Mae nhw’n hoffi chwarae gyda’r bêl, lledu’r chwarae a mae eu gêm dadlwytho nhw’n gryf hefyd. 

“Mae Glasgow yn adnabyddus am chwarae rygbi cyffrous. Gyda’r chwaraewyr rhyngwladol bant, pwy bynnag sydd yn dod i mewn i’r tîm, bydden nhw’n gallu camu mewn a gwneud yr un swydd.

“Bydd hi’n sialens mawr i ni yn Scotstoun, a mae hi’n gêm enfawr i ni. Mae Glasgow ar top y tabl ar y foment, felly bydd hi’n sialens i ni gael y fuddugoliaeth ‘na.

“Gyda gemau caled yn dod lan, mae hi’n gwneud hi’n hyd yn oed mwy pwysig ein bod ni’n cael pwyntiau mas yn Glasgow heno.”

Yn dilyn gêm Guinness PRO14 yn erbyn Ulster wythnos nesaf, bydd Gleision Caerdydd yn dychwelyd i Gwpan y Pencampwyr Heineken, gyda dwy gêm yn erbyn Saracens ym mis Rhagfyr.

Mae Harries yn credu fod y cyfle i groesawu pencampwyr Lloegr i brifddinas Cymru yn gyffrous.

“Bydd y gemau yn erbyn Saracens yn enfawr. Mae nhw wedi bod yn bencampwyr Ewrop yn y gorffennol a bydd cael nhw lawr yng Nghaerdydd, a bydd hi’n gêm fawr i unrhyw un sydd yn chwarae ar y diwrnod.

“Bydd hi’n sialens wych i ni weld lle ni arni fel tîm hefyd. Mae’r grwp yn agored ar hyn o bryd, ond byddwn yn canolbwyntio ar y gemau hynny ar yr adeg cywir.”