Blog Banner

Dim newid i dîm Cymru i wynebu'r Wallabies

Cymraeg | 27th September 2019


Mae Josh Navidi a Josh Adams wedi cadw eu lle yn nhîm Cymru, wrth i ddynion Warren Gatland baratoi i wynebu Awstralia yn Tokyo dydd Sul.

Fe wnaeth y deuawd o Gleision Caerdydd serennu yn erbyn Georgia dydd Llun, gydag Adams yn croesi am drydydd cais ei dîm wrth iddynt seilio buddugoliaeth o 43 pwynt i 14.

Mae Navidi yn cadw gafael ar y crys rhif wyth ac yn ymuno â Justin Tipuric ac Aaron Wainwright yn y rheng-ôl. 

Mae’r prif hyfforddwr, Gatland, wedi cadw ffydd gyda’r tîm wnaeth sicrhau pwynt bonws yn erbyn Georgia yng ngêm agoriadol Cwpan y Byd, gyda dim ond un newid wedi ei wneud i’r garfan o 23 chwaraewr.

Golygai hyn fod Dillon Lewis a Tomos Williams yn parhau ar y fainc, ar ôl i’r mewnwr greu cais a sgorio fel eilydd yn y gêm agoriadol. Yr unig newid ymysg yr eilyddion yw Owen Watkin, sydd yn cymryd lle Leigh Halfpenny.

Bydd y capten, Alun Wyn Jones, yn torri record Gethin Jenkins i fod y chwaraewr i ennill y nifer mwyaf o gapiau dros Gymru, ar ôl chwarae 130 o weithiau dros ei wlad.

Tîm Cymru i wynebu Awstralia (Dydd Sul, Medi 29):

15 Liam Williams (Saracens, 59 cap)

14 George North (Gweilch, 87 cap)

13 Jonathan Davies (Scarlets, 77 cap)

12 Hadleigh Parkes (Scarlets, 19 cap)

11 Josh Adams (Gleision Caerdydd, 15 cap)

10 Dan Biggar (Northampton Saints, 74 cap)

9 Gareth Davies (Scarlets, 45 cap)

1 Wyn Jones (Scarlets, 16 cap)

2 Ken Owens (Scarlets, 68 cap)

3 Tomas Francis (Exeter Chiefs, 44 cap)

4 Jake Ball (Scarlets, 37 cap)

5 Alun Wyn Jones (Gweilch, 129 cap, capten)

6 Aaron Wainwright (Dreigiau, 13 cap)

7 Justin Tipuric (Gweilch, 67 cap)

8 Josh Navidi (Gleision Caerdydd, 20 cap)

Eilyddion

16 Elliot Dee (Dreigiau, 23 cap)

17 Nicky Smith (Gweilch, 32 cap)

18 Dillon Lewis (Gleision Caerdydd, 16 cap)

19 Aaron Shingler (Scarlets, 21 cap)

20 Ross Moriarty (Dreigiau, 35 cap)

21 Tomos Williams (Gleision Caerdydd, 10 cap)

22 Rhys Patchell (Scarlets, 14 cap)

23 Owen Watkin (Gweilch, 16 cap)