Blog Banner

Digwyddiadau'r wythnos heb effeithio ar baratoadau'r gêm meddai Williams

Cymraeg | 8th January 2021


Nid yw digwyddiadau’r wythnos wedi effeithio ar baratoadau carfan Gleision Caerdydd cyn eu gêm yn erbyn Scarlets nos Sadwrn, meddai Lloyd Williams.

Fe wnaeth John Mulvihill adael ei swydd fel prif hyfforddwr yn gynharach wythnos yma, gyda Dai Young yn dychwelyd i gymryd ei le fel cyfarwyddwr rygbi dros dro.

Ond, wrth ymarfer wythnos yma, mae Williams yn mynnu fod y garfan wedi canolbwyntio yn llwyr ar ymateb i’r golled yn erbyn Gweilch ar Ddiwrnod Calan.

“Dim ond dau ddiwrnod ni’n cael i baratoi ar hyn o bryd oherwydd y rheolau o amgylch Covid, felly mae’n bwysig pan ni’n ymarfer ein bod ni’n gwneud y mwyaf o’r amser yna,” meddai’r mewnwr rhyngwladol.

“Felly o ran yr wythnos ni wedi cael does dim esgus. Fel chwaraewyr ni o hyd eisiau mynd mas ‘na i berfformio.

“Yn bersonol fi wedi bod yn edrych ymlaen at y gêm a canolbwyntio ar hynny trwy’r wythnos. Efallai yn yr wythnosau i ddod y bydd siawns i adlewyrchu.

“Ond ar hyn o bryd mae hi wedi bod yn debyg i’r wythnosau diwethaf felly does dim byd enfawr wedi newid.

“Mae’r hyfforddwyr wedi cael ni i fynd drwy lot o waith ar y cae a’r unig newid sydd wedi bod i ni yw ein bod ni’n chwarae yn erbyn Scarlets yn lle’r Gweilch.

“Gobeithio fod lot o’r tymor dal i fynd a sai’n siwr beth yn union sydd yn mynd i ddigwydd yn y gynghrair.

“Ond mae mwy o gemau i chwarae ac felly mae cyfle i wneud yn well. 

“Ond hyd yn hyn, fel carfan, byddwn ni i gyd yn dweud bod ni wedi tan-gyflawni.

“Mae lot o resymau am hynny. Y chwaraewyr sydd ar y cae ond fel rhanbarth a chlwb, mae’n rhaid edrych ar popeth.

“Nid dim ond y chwaraewyr sydd ar fai, a bydd pawb yn dweud fod pawb yn chwarae rhan yn y perfformiad ar y penwythnos.”

Mae’r mewnwr yn disgwyl her galed yn erbyn y gwyr o’r gorllewin a mae’n gobeithio y gall ei dîm achosi problemau i amddiffyn yr ymwelwyr: “Mae nhw’n cicio’r bêl lot, felly mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio’n galed yn yr awyr ac yn gweithio’n galed yn ôl o flaen y bêl. 

“Mae nhw’n hoffi rhoi’r bêl tu ôl a mae’n gallu bod yn galed weithiau i weithio yn ôl trwy gydol y gêm.

“Mae ganddyn nhw lot o flaenwyr pwerus sydd yn cario yn gryf felly bydd rhaid i’r amddiffyn fod yn dda.

“Ond y peth mwyaf ni eisiau fel tîm yw’r cyfle i ymosod yn erbyn Scarlets a cheisio sgorio mwy o bwyntiau nag yn yr wythnosau diweddar.

“Mae’n braf bod ‘da ni gêm i ganolbwyntio arno. Fel chwaraewyr, ar ôl colli yn y ffordd ‘na wythnos diwethaf, mae wastad yn neis i gael sialens newydd a ceisio gwneud pethau yn iawn.

“Mae pawb wedi ystyried pa mor galed yw’r sialens. Mae’r Scarlets yn dîm da gyda lot o chwaraewyr talentog, felly bydd hi’n bwysig i ni fel clwb ac yn bersonol hefyd.”