Blog Banner

Davies eisiau datblygu yn bersonol yn ystod y Cwpan Celtaidd

Cymraeg | 28th August 2019


Mae Ioan Davies yn edrych ymlaen i ddatblygu ei gêm bersonol yn ystod ymgyrch y Cwpan Celtaidd eleni.

Chwaraeodd y seren academi am yr 80-munud gyfan yn erbyn Leinster dros y penwythnos, a mae wedi cadw gafael ar y crys rhif 15 i wynebu Ulster ym Melffast nos Sadwrn.

Mae’r cefnwr, oedd yn rhan allweddol o dîm dan-20 Cymru dros yr Haf, yn teimlo fod hi’n gystadleuaeth perffaith i chwaraewyr ifanc y rhanbarth, a mae’n gobeithio dysgu gan ei gyd-chwaraewyr profiadol.

“Ar lefel bersonol, rwyf eisiau cymryd hi un gêm ar y tro eleni, gan geisio datblygu o wythnos-i-wythnos a hefyd adeiladu ar yr hyn nes i ddysgu llynedd gyda’r tîm dan-20,” meddai’r cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Glantaf.

“Rwyf eisiau datblygu fel unigolyn, ond hefyd eisiau gwneud hynny er mwyn creu argraff ar y tîm.

“Chi wastad eisiau cystadlu am le a chreu argraff, a rwyf wedi mwynhau ymarfer gyda carfan y tîm cyntaf yn ystod yr Haf.

“Mae yna chwaraewyr yn y garfan y gallai ddysgu ganddyn nhw a mae hynny’n ffordd dda o ddatblygu fy gêm.

“Mae’r Cwpan Celtaidd yn berffaith i chwaraewyr ifanc fel fi. Mae’r safon yn uchel a chi’n cael cyfle i chwarae gyda unigolion profiadol, sydd yn grêt. Nes i fwynhau llynedd, a rwy’n edrych i gystadlu a chwarae mwy o rygbi eleni.”

Er mai Leinster oedd yn fuddugol ym Mharc yr Arfau dros y penwythnos, roedd Davies yn bositif am agweddau o berfformiad y tîm cartref, a mae wedi pwysleisio ar safon y gystadleuaeth.

“Roedd yna bethau positif i’w cymryd o’r gêm. Er nad oedd y sgôr o’n plaid ni, roedd yna agweddau positif yn yr hanner cyntaf, yn ogystal a’r hanner awr olaf,” meddai Davies.

“Roedd ein amddiffyn ar llinell cais ein hunain yn dangos y cymeriad sydd yn y tîm.

“Roedd hi’n gêm dda i fod yn rhan ohoni. Roedd hi’n gorfforol ac yn gyflym, ond roedd hi’n sialens wahanol gan nad oedd llawer o amser i baratoi, ond fe ddaw hynny wrth i’r ymgyrch fynd yn ei blaen a rwy’n edrych ymlaen i weddill y tymor.

“Mae’r cymysg o brofiad a ieuenctid yn gwneud hon yn gystadleuaeth unigryw, a mae hi’n brawf gwahanol oherwydd mae’n rhaid dod at eich gilydd fel carfan yn gyflym iawn.

“Roedd Leinster yn dîm da a wedi llwyddo i gymryd mantais ar ein cam-gymeriadau. Does dim lle i hynny ar y lefel yma.

“Ond mae’r wythnos yma yn bwysig i ddysgu o’r gêm yn erbyn Leinster, gweithio ar ein gwendidau yn ystod ymarfer a perfformio’n well yn erbyn Ulster.”