Blog Banner

Cysondeb yn allweddol cyn gemau'r Nadolig - Williams

Cymraeg | 19th December 2020


Mae darganfod cysondeb yn allweddol i Gleision Caerdydd cyn gemau’r Nadolig, yn ôl Lloyd Williams.

Ar ôl buddugoliaeth yng ngêm agoriadol Cwpan Her Ewrop yn erbyn Newcastle Falcons wythnos diwethaf, bydd tîm John Mulvihill yn croesawu Stade Francais i Rodney Parade dydd Sul.

Mae Williams yn mynnu fod dal lle i’w dîm wella, er gwaethaf y fuddugoliaeth wythnos diwethaf, a mae’n disgwyl sialens galed yn erbyn y gwyr o Baris.

“Gobeithio gyda’r canlyniad ‘na, ni wedi creu ychydig bach o momentwm a bydd hynny’n rhywbeth allwn ni fel carfan gymryd mantais ohono wrth symud ymlaen i dydd Sul,” meddai’r mewnwr.

“Mae pethau bach sydd angen gwaith arnyn nhw a gobeithio yn ystod yr wythnos ni wedi llwyddo i wneud hynny.

“Ond mae wastad yn ffordd dda i gychwyn pencampwriaeth pan chi’n ennill oddi-cartref yn Ewrop.

“Yn bersonol, fi ddim yn credu bod y sgôr yn adlewyrchu gêm Stade wythnos diwethaf. Roedd Treviso wedi sgorio dipyn o beli rhydd, a weithiau bydd pethau fel ‘na yn cwympo’r ffordd arall i dîm.

“Mae Stade yn dîm ac yn garfan cryf, felly bydd hi’n holl bwysig ein bod ni’n chwarae yn dda ar y penwythnos er mwyn cael siawns.

“Yr awgrym, pan chi’n edrych ar eu carfan nhw, yw bod nhw’n rhoi’r bechgyn sydd ddim yn chwarae yn aml mas ar gyfer Ewrop.

“Ond mae’n nhw’n dal yn chwaraewyr da a mae’n amhosib i edrych arnyn nhw fel gwendidau. Bydd hi’n bwysig, pwy bynnag sydd yn dod draw, ein bod ni’n mynd mas i chwarae yn dda fel tîm.

“Waeth pa bencampwriaeth ni ynddi, fel carfan ac fel unigolion ni moen perfformio yn dda.

“Byddai’n hwb enfawr i ni os gallwn ni greu ychydig o gysondeb a momentwm cyn mynd i mewn i gemau’r darbi dros y Nadolig.

“Fel tîm ni ddim wedi cael y cysondeb ‘na dros y misoedd diwethaf, a mae hynny’n rhywbeth ni’n trafod fel carfan. Felly mae pawb yn gwybod beth yw pwysigrwydd y gêm dydd Sul.”

Y gêm yn erbyn Stade fydd y gêm cartref olaf i gael ei chwarae yn 2020. 

O ganlyniad i Ysbyty Calon y Ddraig yng Nghaerdydd, mae’r Gleision wedi chwarae eu gemau cartref yn Rodney Parade ers mis Awst. 

Mae’r mewnwr rhyngwladol yn dweud fod ei dîm wedi mwynhau chwarae yng Nghasnewydd, ond eu bod nhw’n ysu i fynd yn ôl i Barc yr Arfau mor fuan â phosib.

“Ni wedi gwerthfawrogi Rodney Parade yn gadael i ni chwarae ar eu cae nhw ond byddwn ni’n bles i fynd yn ôl i Barc yr Arfau, yn enwedig pan fydd y dorf yn cael dod yn ôl,” ychwanegodd Williams.

“Ond mae’n rhywbeth ni methu osgoi ar hyn o bryd a gobeithio cyn bo hir y byddwn ni yn ôl ym Mharc yr Arfau yn chwarae rygbi.”