Blog Banner

Cynrychioli Rhydychen yn y Varsity yn fraint i Johnes

Cymraeg | 23rd June 2021


Mae Manon Johnes yn dweud y bydd hi’n fraint cael cynrychioli Prifysgol Rhydychen am y tro cyntaf yn y gêm Varsity fyd-enwog yn erbyn Prifysgol Caergrawnt yn Welford Road wythnos nesaf.

Ni wedi hen arfer gweld y cyn ddisgybl Ysgol Gyfun Glantaf fel blaen-asgellwr caled, sydd yn arbennigo ar ochr amddiffynnol y gêm. Ond gwisgo y crys rhif naw bydd y seren rhyngwladol yng Nghaerlyr wythnos nesaf.

Bydd yr ornest yn ddiweddglo i flwyddyn cyntaf Johnes yn y brifysgol byd-enwog, ar ôl gorffen ei arholiadau wythnos diwethaf.

Mae’r seren Gleision Caerdydd, Bristol Bears a Chymru yn cyfaddef fod cryn dipyn o dynnu coes wedi bod ers i deulu a ffrindiau ddarganfod ei bod yn chwarae fel mewnwr ond mae hi’n edrych ymlaen i chwarae mewn achlysur mor fawr.

“Fi’n gyffrous iawn achos mae chwarae i brifysgol yn bendant yn brofiad gwahanol i chwarae i glwb neu dros Gymru," meddai Johnes.

“Mae’n rhoi cyfle i fi chwarae gyda pobl newydd a trio pethe’ newydd, ac yn amlwg mae’r gêm yn erbyn Caergrawnt yn hanesyddol ac yn gêm fawr iawn.

“Fi’n teimlo’n freintiedig i gael chwarae rhan a fi’n gyffrous iawn.

“Ni’n bendant yn cael gwybod pa mor hanesyddol a pwysig yw’r gêm yma. Roedd rhaid mynd i’r clwb er mwyn cael gwahoddiad ffurfiol i chwarae yn y gêm.

“Mae lot o draddodiadau yn Rhydychen a mae hwn yn un mawr ohonyn nhw. Ni wedi siarad lot am pa mor bwysig yw’r gêm yma i bawb.

“Yn fwy nag dim, mae’n bwysig i’r merched sydd heb chwarae ers 15 mis a mae’n gyfle i nhw chwarae rygbi unwaith eto. Mae pawb yn gyffrous.

“Fel arfer mae’r gêm yn Twickenham ond oherwydd Covid mae’n cael ei chwarae Welford Road eleni. 

“Mae’n stadiwm gwych i chwarae ynddi a mae’r achlysur, lle mae gemau’r dynion a’r merched yn cael eu cynnal ochr-yn-ochr, yh rhoi cyfle arbennig i bawb allu gweld y lefel o rygbi mae’r ddwy brifysgol yn gallu rhoi ymlaen.

“Fi wedi cael gymaint o gwestiynnau am chwarae fel mewnwr, a fi’n siwr bod Dad yn poeni yn fwy nag unrhyw beth arall.

“Pan nes i ddweud wrtho fe, fe wnaeth e ddanfon fideo o Mauro Bergamasco yn chwarae fel mewnwr i’r Eidal yn erbyn Lloegr.

“Oedd e’n dweud dyma beth fydd yn digwydd i fi, felly ie, diolch am y gefnogaeth Dad!

“Ond mae hwn am fi eisiau ceisio rhywbeth newydd mas, i fod yn onest. Mae’n gêm, efallai, gyda rhywfaint llai o bwysau nag sydd ‘na pan chi’n chwarae dros clwb neu Cymru.

“Fi wedi cael gwersi cicio ers cael fy newis fel mewnwr, ond galla i ddim gaddo cicio arbennig. Mae’n rhaid i bawb gychwyn yn rhywle!

“Fi’n edrych ymlaen i rhoi tips i Keira Bevan [mewnwr Cymru a’r Gweilch] tro nesaf fi’n gweld hi! Mae merched Bryste a Chymru yn ffeindio fe’n ddoniol yn fwy nag unrhyw beth arall i fod yn onest.”

Mae’r myfyriwr yn dweud y byddai buddugoliaeth yng Nghaerlyr yn ddiweddglo perffaith i flwyddyn cyntaf cofiadwy, ond heriol, yn Rhydychen.

“Mae ennill y Blue yn rhywbeth enfawr yn Rhydychen. Chi’n gallu gweld faint mae’n golygu i bawb,” meddai Johnes.

“Mae’r gemau Varsity yn achlysur enfawr a roedd hynny yn sicr ar meddwl fi pan o’n i’n gwneud cais i fynd i’r brifysgol.

“I gallu chwarae yn y gêm yna ar diwedd fy mlwyddyn cyntaf, fi’n gyffrous a mae’n brofiad arbennig i fod yn rhan o’r achlysur.

“Mae wedi bod yn blwyddyn anodd yn ceisio gwneud y rygbi a’r astudio. Hyd yn oed yn fy wythnos olaf, mae pobl o gwmpas y brifysgol dal yn gofyn os fi’n ymwelwr oherwydd dyw nhw heb weld fi llawer gan fy mod i’n gyrru i bob man.

“Fi’n hapus o gael profiad unigryw sydd yn annisgifiadwy. Mae hi wedi bod yn flwyddyn arbennig a fi mor lwcus i fod yn fan hyn ond parhau i fwy bywyd dwbwl.

“Fi ddim yn credu y bydd gormod o amser i fi ymlacio oherwydd fi’n colli pythefnos o ymarfer pre-season gyda Bryste oherwydd y Varsity.

“Ond fi’n edrych ymlaen i fod yn ôl yn chwarae gyda nhw ac i fod yn ôl yng Nghymru a Chaerdydd dros yr Haf - yr ochr gywir o’r ffîn!”