Blog Banner

Cymru yn sicrhau buddugoliaeth hanfodol yn erbyn y Wallabies

Cymraeg | 29th September 2019


Chwaraeodd pedwar o sêr Gleision Caerdydd wrth i Gymru sicrhau buddugoliaeth Cwpan y Byd hanfodol yn erbyn Awstralia dydd Sul.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu fod tîm Warren Gatland wedi ennill eu dwy gêm yn y gystadleuaeth eleni, ac yn eistedd ar frig y tabl, tri pwynt uwchben y Wallabies.

Roedd Cymru yn rheoli'r gêm erbyn hanner amser yn Tokyo, yn dilyn ceisiau gan Hadleigh Parkes a Gareth Davies.

Roedd y maswr Rhys Patchell, ddaeth drwy academi Gleision Caerdydd, yn parhau i ychwanegu pwyntiau i’w dîm yn yr ail hanner.

Ond dangosodd Awstralia ddigon o gymeriad i frwydro yn ôl i mewn i’r ornest, gyda Adam Ashley Cooper, Dane Haylett-Petty a Michael Hooper yn croesi'r gwyngalch i dîm Michael Cheika.

Gyda'r Wallabies yn pwyso am fuddugoliaeth hwyr, chwaraeodd Tomos Williams rôl bwysig o’r fainc unwaith eto. Ciciodd Matt Toomua tuag at yr ystlys o gic cosb hwyr, ond llwyddo i’r mewnwr gadw’r bêl ar y maes gyda sgil acrobatig anhygoel.

Roedd hi’n ddiweddglo nerfus i’r Cymry, ond fe wnaethant llwyddo i ddal gafael i’r mantais o bedair pwynt i symud cam yn agosach at le yn yr wyth olaf. Byddant yn wynebu Ffiji a Wrwgwai yn nwy gêm olaf y grwp.