Blog Banner

Cymru yn cadw'r ffydd ar gyfer yr wyth olaf

Cymraeg | 18th October 2019


Mae Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Ffrainc yn rownd wyth olaf Cwpan y Bydd yn Oita dydd Sul, gyda pedwar o sêr Gleision Caerdydd wedi eu cynnwys yn y garfan.

Mae'r prif hyfforddwr wedi cadw ffydd gyda'r tîm wnaeth sicrhau buddugoliaeth dros Georgia ac Awstralia, sy'n golygu fod Josh Navidi yn gwisgo'r crys rhif wyth tra fod Josh Adams, cyd-brif sgoriwr ceisiau y gystadleuaeth, yn cadw ei le ar yr asgell ar ôl cychwyn pob gêm hyd yn hyn.

Mae Dillon Lewis a Tomos Williams, sydd wedi chwarae ym mhob gêm, yn ymddangos ar y fainc gyda Rhys Carré a Rhys Patchell, dau arall sydd wedi graddio o academi Gleision Caerdydd.

Bydd clwb Parc yr Arfau Caerdydd yn agored i BAWB ar gyfer y gêm, gyda brecwast ar gael a cynnig ar boteli Heineken.

Tim Cymru i wynebu Ffrainc:

1. Wyn Jones (Scarlets) (19 Cap)
2. Ken Owens (Scarlets) (70 Cap)
3. Tomas Francis (Exeter Chiefs) (46 Cap)
4. Jake Ball (Scarlets) (39 Cap)
5. Alun Wyn Jones (Gweilch) (131 Cap) (CAPT)
6. Aaron Wainwright (Dreigiau) (16 Cap)
7. Justin Tipuric (Gweilch) (69 Cap)
8. Josh Navidi (Gleision Caerdydd) (22 Cap)
9. Gareth Davies (Scarlets) (48 Cap)
10. Dan Biggar (Northampton Saints) (76 Cap)
11. Josh Adams (Gleision Caerdydd) (18 Cap)
12. Hadleigh Parkes (Scarlets) (22 Cap)
13. Jonathan Davies (Scarlets) (79 Cap)
14. George North (Gweilch) (89 Cap)
15. Liam Williams (Saracens) (61 Cap)

Replacements:

16. Elliot Dee (Dreigiau) (26 Cap)
17. Rhys Carre (Saracens) (3 Cap)
18. Dillon Lewis (Gleision Caerdydd) (19 Cap)
19. Adam Beard (Gweilch) (17 Cap)
20. Ross Moriarty (Dreigiau) (38 Cap)
21. Tomos Williams (Gleision Caerdydd) (13 Cap)
22. Rhys Patchell (Scarlets) (17 Cap)
23. Owen Watkin (Gweilch) (19 Cap)