Blog Banner

Cook yn falch o gymeriad tîm ifanc Gleision Caerdydd A

Cymraeg | 23rd September 2019


Roedd Macauley Cook yn falch o gymeriad tîm ifanc Gleision Caerdydd A yn dilyn yr ornest Cwpan Celtaidd yn erbyn Munster A dros y penwythnos.

Y blaenwr profiadol oedd capten y tîm yng Nghorc, ond colli oedd eu hanes er gwaethaf y perfformiad calonogol oddi-cartref.

Mae ymgyrch y Cwpan Celtaidd yn parhau i dîm Gethin Jenkins a T Rhys Thomas penwythnos yma, wrth iddyn nhw baratoi i groesawu Connacht i Barc yr Arfau brynhawn Sadwrn.

Mae Cook yn teimlo bydd y gemau hyn yn rhoi profiad gwerthfawr i chwaraewyr ifanc y garfan, a mae’n credu fod yna agweddau positif i’w cymryd o’r gêm yn Iwerddon.

“Ar ôl ildio’r ddau gais cyntaf, roeddem ni wedi dangos lot o galon i ddod yn ôl i mewn i’r gêm a roedd hi’n berfformiad cryf yn yr 20 munud olaf o’r hanner cyntaf, a’r 20 munud cyntaf ar ôl hanner amser,” meddai Cook. 

“Ni’n siomedig gyda’r canlyniad ond roedd y bois wedi gwneud yn ardderchog, yn enwedig y bois ifanc iawn.

“Roedd ambell un dal yn 17 mlwydd oed, felly roedd hi’n brofiad gwych i nhw.

“Mae’n gyfle i ddysgu i pawb, yn enwedig gyda cefnwyr mor ifanc, ond mae hi’n galed ar adegau.

“Mae nhw’n dysgu yn dda, a roeddwn yn meddwl eu bod nhw wedi chwarae yn dda nos Wener, oherwydd roedd yna setiau positif wrth ymosod ac amddiffyn.

“Roedd yna siap da wrth ymosod, oedd yn creu problemau i Munster, a bydden ni wedi gallu sgorio mwy o geisiau.

“Roedd hi’n siomedig i adael nhw sgorio cwpwl o geisiau tuag at y diwedd ac iddyn nhw allu adeiladu sgôr ar y bwrdd.

“Nhw oedd yn haeddu ennill y gêm ar y cyfan, ond nid oedd y sgôr yn adlewyrchu y gwahaniaeth rhwng y timau.

“Ni ddim wedi cael lot o ymarfer gyda’n gilydd fel tîm, ond ni’n edrych ymlaen i gael cwpwl mwy wythnos yma cyn Connacht a gobeithio byddwn ni’n gallu cymryd yr agweddau positif a gwella cyn dydd Sadwrn.

“Mae’n rhaid symud ymlaen nawr ar gyfer Connacht wythnos nesaf a roedd lot o bethau positif i’w cymryd o’r gêm yma.”

Mae cyn-gapten tîm dan-20 Cymru yn mwynhau ei rôl fel arweinydd o fewn y garfan, a mae’n gwerthfawrogi’r mantais o gael chwarae ar y lefel yma.

“Fi ddim wedi bod yn gapten ers amser hir i fod yn onest, ond mae’n gallu bod yn galed i siarad mwy gyda’r dyfarnwr a’r bois," meddai Cook.

“Ond mae’n digon hawdd i fi wneud, a mae’n rhaid canolbwyntio ar gêm eich hunain hefyd a fi’n mwynhau’r profiad.

“Ar gyfer rhai o’r bois sy’n pwyso am le yn y tîm cyntaf, a ddim yn cael amser i chwarae, mae’n dda i allu chwarae ar y lefel yma ac i gael gemau o’r safon a cyflymder yma.

“Mae’n dda i ni, ond hefyd i’r bois ifanc sydd yn ceisio cael mwy o brofiad.

“Mae’n gyfle iddyn nhw ddysgu o chwarae gyda bois fel Alun [Lawrence], Ethan [Lewis], Jim [Botham] a Ben Murphy.”