Blog Banner

Colli ddim yn opsiwn i Gleision Caerdydd meddai Harries

Cymraeg | 12th April 2019


Dyw colli yn erbyn Connacht ddim yn opsiwn i Gleision Caerdydd meddai Jason Harries.

Mae tîm John Mulvihill yn teithio i Galway i wynebu tîm Andy Friend prynhawn Sadwrn, gyda’r gobaith o neidio i’r trydydd safle cyn y rownd olaf o gemau Guinness PRO14.

Mae Harries yn mynnu fod y cyfle i chwarae yng Nghwpan y Pencampwyr Ewrop yn gymhelliant i’w dîm ond bydd rhaid selio’r fuddugoliaeth yn y Sportsground er mwyn cyrraedd y targed hwnnw.

“Ni wedi chwarae’r gemau hyd yn hyn tymor ‘ma, ond mae’r tymor wedi dod lawr i’r gêm yma yn erbyn Connacht mas yn Galway,” meddai’r asgellwr.

“Ni wedi rhoi ein hunain yn y sefyllfa i allu gorffen yn y tri uchaf, ond mae’n rhaid i ni ennill prynhawn Sadwrn.

“Pan chi’n edrych yn ôl ar gychwyn y tymor, a’r targedau chi’n gosod i chi eich hunain, yn y tri uchaf ni wastad eisiau gorffen ar ddiwedd y tymor.

“Mae pawb yn edrych ymlaen i’r gêm dydd Sadwrn ac i gael y cyfle i gyrraedd y targed.

“Ni wedi croesawu timau fel Saracens a Lyon i Gaerdydd tymor yma a ni eisiau chwarae yn erbyn timau o’r safon yna eto blwyddyn nesaf.

“Mae nhw’n rhai o dimau gorau Ewrop a dyna’r math o dimau mae pawb moen wynebu.”