Blog Banner

Chwaraewyr dan-18 wedi cynrychioli Caerdydd gyda balchder meddai'r capten Evans

Cymraeg | 29th June 2021


Roedd chwaraewyr dan-18 Gleision Caerdydd wedi cynrychioli’r clwb gyda balchder, yn ôl y capten Gwilym Evans.

Croesodd y chwaraewr rheng-ôl am gais yn erbyn y Dreigiau nos Lun, ond nid oedd ei dîm yn gallu cadw gafael ar eu record 100 y cant eleni.

Ar ôl ildio 21 pwynt yn yr 20 munud cyntaf, daeth y tîm cartref yn ôl i fynd ar y blaen yn yr ail hanner. Ond roedd chwarter olaf cryf gan y Dreigiau yn ddigon i’r ymwelwyr gipio’r fuddugoliaeth.

Ond, gyda tair buddugoliaeth i Gaerdydd dros y pedair gêm, roedd Evans yn falch o’i dîm a mae’n credu y bydd y profiad yn paratoi’r chwaraewyr ar gyfer y dyfodol.

“Holl pwynt y gemau yma yw i ddysgu fel chwaraewyr. Mewn cwpwl o flynyddoedd bydd neb yn poeni beth oedd y canlyniad,” meddai’r disgybl Ysgol Gyfun Glantaf, sydd hefyd yn rhan o’r academi. 

“Mae’n rhaid i ni fel grwp wneud yn siwr ein bod ni wedi dysgu, oherwydd ni’n chwaraewyr ifanc sydd yn gallu cymryd hynny mewn i’r dyfodol.

“Yn y diwedd mae nifer o bethau positif wedi dod o’r ymgyrch.

“O’n ni o dan y pyst ar ôl y trydydd cais, a oedd Dan Fish yn dweud fod dau ddewis ganddom ni - mynd yn ôl tuag atyn nhw neu gadael iddyn nhw ddod trwyddo trwy’r holl gêm.

“I fod yn deg, fe wnaeth y bois ddangos cymeriad ond chi angen mwy na dim ond cymeriad ar y lefel yma er mwyn gael canlyniadau.

“Mae cael cymeriad yn bositif ond yn rhywbeth mae disgwyl i chi gael ym mhob gêm. Chi methu disgwyl cael canlyniad os chi’n mynd lawr o 21 pwynt ar y dechrau.

“Mae wedi bod yn brofiad arbennig gyda grwp da o fois. Mae nifer o fois newydd wedi dod i mewn ac wedi ffitio i mewn yn dda.

“Y rhan gorau o rygbi yw bod yn rhan o dîm a bod gyda ffrindiau yn anelu am yr un gôl. Mae wedi bod yn amser hir, ond wedi bod yn dda i fod yn ôl.

“Mae wedi bod yn fraint cael gwisgo’r crys. Mae Caerdydd eisiau bod y rhanbarth gorau yng Nghymru a mae hynny’n glir i ni wrth ddod i mewn.

“Mae’r rhaid i’r bois hyn ddechrau yn rhywle a mae’n dda fod gymaint o fois wedi cael cyfle i chwarae dros y clwb.”