Blog Banner

Carfan Cymru yn credu - Adams

Cymraeg | 7th October 2019


Gyda’r gêm hanfodol yn erbyn Fiji yn agosau, mae carfan Cymru yn llawn hyder meddai’r asgellwr Josh Adams.

Mae seren Gleision Caerdydd wedi cadw ei le ar yr asgell ar gyfer yr ornest yn Oita, wrth i Warren Gatland gadw ffydd yn ei gefnwyr am y trydydd gêm yn olynol.

Mae Adams yn dweud fod y tîm yn hapus ar ôl sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Awstralia, ond yn mynnu eu bod yn ymwybodol o’r bygythiad mae Fiji yn gynnigl.

“Roedd yna gred yn y tîm o’r diwrnod cyntaf, hyd yn oed cyn camu ar y maes. Awstralia yw’r tîm arall o’r haen uchaf yn ein grwp, felly gallwch chi ddadlau mai hona oedd ein gêm mwyaf,” meddai’r asgellwr.

“Ond mae’r ffordd wnaeth Fiji chwarae yn ystod yr hanner cyntaf yn erbyn Awstralia yn dangos faint o fygythiad mae nhw’n gallu bod. Ni ddim yn edrych yn bellach na’r gêm honno ar y foment.

“Roedd hi’n neis i gael y fuddugoliaeth. Yn y gorffennol, efallai bydden ni wedi colli tuag at y diwedd.

“Ni wastad i weld yn chwarae yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd, a wedi colli o drwch blewyn, felly mae hi’n wych i gael buddugoliaeth yn erbyn nhw. Roedd hi’n 32 o flynyddoedd, felly ni wedi haeddu un.

“Roedd hi’n debyg i’r gêm yn erbyn Georgia - roedd yr hanner cyntaf yn grêt, yn glinigol, ond tuag at yr ail hanner roedd ein troed wedi ei dynnu o’r sbardun, a mae hynny’n rhywbeth i weithio arno.

“Roedd ein amddiffyn yn grêt tuag at y diwedd, ond ar ôl bod 18 pwynt ar y blaen roeddem ni wedi ildio gormod o bwyntiau a gadael iddyn nhw ddod yn agos.

“Ond ni’n hapus iawn i ennill - roedd hi’n gêm enfawr i ni. Ond mae dwy gêm arall enfawr i ddod.”

Roedd Adams hefyd yn canmol y prif hyfforddwr, Gatland, sydd wedi rhoi hyder i’r garfan.

“Mae Warren yn rhoi cymhelliant i ni. Mae’n siarad pan mae angen iddo wneud, ond ddim yn siarad gormod,” meddai Adams.

“Weithiau chi’n meddwl beth mae’n mynd i ddweud a dyw e ddim yn dweud dim byd.

“Ond mae’n gweithio a mae’n llwyddo i llenwi chi gyda hyder ac yn gwneud i chi gredu.

“Mae’n gwneud swydd wych o gael ni’n barod ar gyfer gemau. Fi’n falch bod ni’n gallu ad-dalu ffydd yn yr hyfforddwyr.”