Blog Banner

Canlyniadau diweddar yn dangos pwysigrwydd cysondeb - Williams

Cymraeg | 24th March 2021


Mae canlyniadau diweddar Gleision Caerdydd yn profi pa mor bwysig yw perfformio yn gyson drwy gydol y tymor, meddai Lloyd Williams.

Ar ôl seilio pwynt bonws yn erbyn Caeredin nos Lun, mae tîm Dai Young bellach wedi sicrhau pedair buddugoliaeth yn y chwe gêm diwethaf.

Ond, gyda’r Scarlets yn curo Connacht, yn y bedwaredd safle y bydd Caerdydd yn gorffen y tymor. Nid yw eu lle yng Nghwpan y Pencampwyr ar gyfer tymor nesaf wedi ei gadarnhau, gyda penderfyniad ynglyn â’r nifer o dimau yn y gystadleuaeth i’w wneud.

Ond, gyda Caeredin ar y blaen ar hanner amser, roedd y mewnwr rhyngwladol yn falch o weld ei dîm yn ymateb yn bositif i sicrhau’r pump pwynt.

“O’n ni wedi troi’r gêm o gwmpas yn ystod yr ail hanner, fel mae’r tîm wedi bod yn gwneud yn ddiweddar,” meddai Williams.

“Mae pawb yn bles gyda sut aeth y gêm a roedd y canlyniad yn hynod o bwysig i ni.

“Ar ddechrau’r wythnos roedd y bois wedi dweud pa mor bwysig oedd hi i gael y pedwar cais, a o’n ni wedi gwneud hynny.

“Dyna’r oll o’n ni’n gallu gwneud ond yn anffodus roedd Scarlets wedi ennill hefyd. Ond dyna sut mae e’n mynd weithiau.

“Byddai chwarae yn Cwpan y Pencampwyr yn bwysig i’r clwb ac i ni fel chwaraewyr. Dyna y gystadleuaeth ni gyd moen chwarae ynddo.

“Felly gobeithio fod siawns o hyd i ni gael gwneud hynny.

“Roedd cwpwl o berfformiadau yn gynnar yn y tymor lle roeddem ni wedi colli pwyntiau a mae’n dangos pa mor bwysig yw’r gemau hynny tuag at diwedd y tymor.

“Mae’r pencampwriaeth yma drosodd nawr a gallwn ni edrych ymlaen i chwarae London Irish mewn pythefnos.

“Mae nhw’n dîm sydd yn hoffi rhedeg gyda’r bêl, fel ni, a dylai hi fod yn gêm dda i wylio a chwarae ynddo.”

Chwaraeodd Williams ran allweddol yng nghais Jarrod Evans yn yr ail hanner, gyda’i gic tu ôl i linell amddiffyn Caeredin yn adlamu yn berffaith i’r maswr groesi o dan y pyst.

Roedd y ddau yn rhan o garfan Cymru yn ystod ymgyrch y Chwe Gwlad eleni, gyda’r mewnwr yn chwarae yn erbyn Yr Eidal, a mae gobeithion tîm Wayne Pivac o ennill y bencampwriaeth yn parhau i fod yn fyw, gan ddibynnu ar y canlyniad rhwng Yr Alban a Ffrainc nos Wener.

Roedd hi’n fraint i Williams wisgo’r crys coch unwaith eto, a mae’n dweud ei fod yn mwynhau chwarae gyda Evans, boed hynny ar y cae ymarfer neu mewn gemau cystadleuol: “Mae fi a Jarrod wedi bod yn ymarfer yn y tîm ‘bin juice’ dros Gymru yn ystod yr wythnosau diwethaf a felly ni’n gyfarwydd gyda sut ni’n hoffi chwarae.

“Dwi’n hoffi chwarae gyda Jarrod ond chwarae teg i’r blaenwyr. O’n nhw wedi chwarae yn dda, a mae hi’n gwneud hi’n haws i ni fel hanneri os yw nhw’n ennill y llinell fantais.

“O’n i’n bles iawn i fod yn rhan o’r garfan. Mae wastad yn sbesial iawn ac o’n i’n ddiolchgar i fod yn rhan o’r garfan.

“Bydd pawb yn gobeithio am y canlyniad iawn wythnos yma i adael ni ennill y bencampwriaeth.

“Fe wnaeth y bechgyn weithio yn hynod o galed a byddai hi’n braf iawn i gael y gwpan.”