Blog Banner

Buddugoliaeth yr unig beth ar feddwl Williams cyn ei 200fed ymddangosiad

Cymraeg | 9th November 2019


Mae Lloyd Williams yn mynnu mai sicrhau buddugoliaeth yw’r unig beth ar ei feddwl, wrth iddo baratoi i wneud ei 200fed ymddangosiad dros Gleision Caerdydd.

Y mewnwr fydd yr ail chwaraewr i gyrraedd y garreg-filltir i’r rhanbarth, gyda Taufa’ao Filise yn gorffen ei yrfa ar ôl 255 ymddangosiad.

Mae Williams yn dweud y bydd hi’n achlysur balch i’r teulu, ond mae’n ysu i nodi’r diwrnod gyda buddugoliaeth.

“Mae’n fawr i mi a’r teulu, ac yn rhywbeth fi wedi gweithio yn galed tuag ato,” meddai’r chwaraewr rhyngwladol.

“Fi’n siwr bydd e’n rhywbeth neis i adlewyrchu arno ar ddiwedd y tymor ac yn y blynyddoedd i ddod, ond ar y foment mae yna gêm i’w hennill a dyna sydd ar flaen fy meddwl ar hyn o bryd.

“Roeddwn i’n ysu i chwarae un gêm dros y Gleision, ac unwaith wnaeth hynny ddigwydd roeddwn i wedi cael blas ac yn benderfynol o gael mwy.

“Rwy’n ddiolchgar am y cyfle fi wedi cael gyda’r clwb, a fi’n gwneud y siwr mod i byth yn cymryd hynny yn ganiataol.

“Mae’n garreg-filltir grêt i fi, a un bydd yn agos iawn i mi am weddill fy ngyrfa a tu hwnt.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl unrhyw beth, ond roedd y bois yn y garfan wedi gwneud ffys ac wedi gwneud hi’n wythnos i’w chofio i mi.

“Fi wedi mwynhau’r negeseuon gafodd eu dangos - rhai yn ddoniol, a rhai yn fwy emosiynol.

“Byddai’n neis i orffen yr wythnos ar nodyn uchel ac ennill y gêm ar y penwythnos.”

Bydd Williams yn arwain ei dîm yn erbyn y Cheetahs ym Mharc yr Arfau prynhawn Sadwrn.

Mae’r mewnwr rhyngwladol yn mynnu fod ei dîm yn ymwybodol o gryfder Cheetahs, ond mae’n bwysig iddynt ganolbwyntio ar eu hunain er mwyn ceisio cipio’r fuddugoliaeth.

“Mae’n wych i arwain grwp da o fois a gobeithio gallai arwain o’r blaen.

“Fi’n gobeithio y gallwn ni berfformio yn dda a sicrhau’r canlyniad ni gyda yn benderfynol o’i gael.

“Ni’n chwarae yn erbyn tîm da, a bydd rhaid perfformio’n dda os ni eisiau cael siawns tuag at diwedd y gêm.

“Ni eisiau rhoi ein stamp ni ar y gêm o’r dechrau, a gobeithio gall hynny baratoi ni am weddill y gêm.

“Mae’n bwysig i edrych yn ôl ar ein gêm ni yn fwy na’r gwrthwynebwyr. Ni’n ymwybodol fod Cheetahs yn dîm da, ond hefyd yn gwybod ein bod ni heb fod ar ein gorau eleni, felly ni eisiau cywiro rhai o’r problemau.

“Gobeithio gallwn ni wneud hynny a dangos ein gwaith caled o’r wythnos yn y gêm.

“Ni eisiau ennill gartref o flaen cefnogwyr ein hunain. Byddai’n rhoi hwb mawr o gwmpas y lle.

“Ni wedi gweithio yn galed trwy’r tymor a heb weld manteision hynny hyd yn hyn.

“Ni eisiau perfformio. Dyna’r peth pwysicaf i ni, ac os ni’n llwyddo i wneud hynny gobeithio bydd y canlyniad yn cymryd gofal o’i hun.”