Blog Banner

BT a rhanbarthau rygbi Cymru yn arwyddo cytundeb noddi newydd

Cymraeg | 21st December 2020


Cyhoeddodd BT heddiw eu bod am barhau i gefnogi rygbi yng Nghymru ar ôl cytuno ar gytundeb noddi newydd dros dair blynedd gyda phedwar rhanbarth rygbi Cymru – Gleision Caerdydd, Y Sgarlets, Dreigiau a’r Gweilch.

Yn 2014, cytunodd BT ar gytundeb tair-blynedd newydd, arloesol gyda'r rhanbarthau. Cytunwyd i ymestyn y nawdd yn 2017. Bydd y cytundeb newydd yn rhedeg tan 2023 ac, ar ddiwedd y bartneriaeth newydd hon, mi fydd BT wedi noddi'r pedwar rhanbarth am naw tymor yn olynol.

Cyhoeddodd BT y llynedd hefyd eu bod wedi dod i gytundeb â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddod yn brif noddwr timau cenedlaethol pêl-droed Cymru tan 2024.

Fel rhan o’r cytundeb rygbi newydd, bydd brand BT yn ymddangos yn stadiymau cartref y pedwar rhanbarth, yn y gweithgareddau cymunedol ar y cyd, ac yn eu deunyddiau marchnata.

Mae BT a’r rhanbarthau rygbi wedi cytuno hefyd i barhau i wneud mwy o waith cymunedol ar y cyd, gan ganolbwyntio'n benodol ar hyrwyddo pwysigrwydd technoleg, arloesi a sgiliau digidol mewn cymunedau ledled Cymru. 

Dywedodd Richard Holland, Prif Weithredwr Gleision Caerdydd: “Ar ran Gleision Caerdydd, Dreigiau, Y Gweilch a’r Sgarlets, rydym i gyd yn falch iawn o barhau â’n partneriaeth hirsefydlog gyda BT. Maent eisoes wedi bod yn hynod gefnogol i rygbi yng Nghymru.

“Dyma’r unig nawdd ar y cyd sy’n cwmpasu pob un o’r pedwar rhanbarth proffesiynol yng Nghymru. Mae’r cytundeb eisoes wedi profi'n llwyddiant mawr ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio ar y cyd.

“Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn i gadw partner sydd mor adnabyddus a llwyddiannus yn fasnachol, yn enwedig ar adeg mor heriol i bob busnes sy'n ceisio ymdopi â’r pandemig a'r goblygiadau ariannol.

“Mae'r cytundeb yn cynnwys elfenau a mentrau cymunedol newydd cyffrous, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar berthynas sydd eisoes yn gadarn.”

Dywedodd Nick Speed, cyfarwyddwr BT Group yng Nghymru: “Mae BT yn gefnogwr hirsefydlog i rygbi yng Nghymru, felly rydym yn falch o allu parhau â'n nawdd a'n perthynas â’r pedwar rhanbarth.

“Bydd y cytundeb newydd hwn yn ein helpu i barhau i weithio ar brosiectau cymunedol gyda’r pedwar rhanbarth, gan dynnu sylw yn benodol at sut y gall technoleg, arloesi a gwella sgiliau digidol helpu rhagolygon gwaith a bywydau pobl ledled y wlad.

“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd tu hwnt i lawer o sectorau a chwaraeon, a tydi rygbi ddim yn eithriad i hyn. Rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth newydd hon yn helpu i sicrhau y bydd rygbi Cymru, a'r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu, yn dod allan o'r argyfwng hwn yn gryfach nag erioed.”