Blog Banner

Angen i Gleision Caerdydd gychwyn yn gryf yn erbyn Zebre meddai Davies

3rd November 2018


Mae Seb Davies yn mynnu bod rhaid i Gleision Caerdydd gychwyn yn gryf yn ystod yr ornest Guinness PRO14 yn erbyn Zebre ym Mharc yr Arfau prynhawn dydd Sul.

Dychwelodd y chwaraewr rhyngwladol yn y gêm yn erbyn Toyota Cheetahs penwythnos diwethaf, wedi iddo anafu ei ben-glin yn erbyn Leinster yn gêm agoriadol y tymor.

Mae Davies yn dweud mai ei ddyletswydd dros y rhanbarth yw ei ffocws ar hyn o bryd, a mae’n gobeithio gall tîm John Mulvihill ymateb ar ôl colli yn Ne Affrica.

“Tydw i ddim yn credu bod ein hanner cyntaf ni wedi bod yn ddigon da mas yn De Affrica,” meddai’r blaenwr.

“Mae’n rhaid cychwyn yn gyflym yn erbyn y bois o’r Eidal, felly ni eisiau cadw ymlaen i’r bêl, mynd trwy’r cymalau a gobeithio byddwn ni’n gallu torri nhw lawr.

“Mae’n rhaid i ti wneud yn siwr bod y tîm yn cychwyn yn gryf yn y gynghrair yma, neu bydd hi’n mynd yn dasg caled i geisio dod yn ôl i mewn i’r gemau.

“Ni’n benderfynol o wneud pethau’n iawn yn erbyn Zebre, ar ôl bod yn siomedig gyda’r pythefnos diwethaf.

“Ges i anaf ar ôl y gêm cyntaf yn erbyn Leinster, a roedd hynny ychydig yn rhwystredig.

“Ond fi’n ôl ar y ceffyl nawr, a gobeithio gallai berfformio’n dda penwythnos yma.

“Bydd Cwpan y Byd ymlaen blwyddyn nesaf, a dyna’r prif darged i mi, ond am nawr fi’n canolbwyntio ar chwarae’n dda i’r Gleision a gobeithio gallai hynny arwain at gemau i Gymru.”

Fe wnaeth Davies hefyd dalu teyrnged i Gethin Jenkins, wrth i’r prop baratoi i wneud ei ymddangosiad proffesiynol olaf yn ystod y gêm brynhawn Sul.

Bydd Jenkins yn ymuno â thîm hyfforddi’r academi, yn canolbwyntio ar yr ochr amddiffynol, gan weithio gyda’i gyn-gyd-chwaraewyr - Richie Rees, T Rhys Thomas a Nick MacLeod.

“Mae Gethin wedi bod yn chwarae i’r rhanbarth ers blynyddoedd, a mae pawb yn cyslltu Gleision Caerdydd gyda Gethin,” meddai Davies.

“Fe oedd y prop gorau yn y byd dros y deg mlynedd diwethaf, a mae wedi cyfrannu’n wych i’r rhanbarth.

“Fi’n credu bydd e’ moen hyfforddi’r tîm cyntaf yn y dyfodol a mae wedi cychwyn gwneud y trosglwyddiad o fod yn chwaraewr i fod yn hyfforddwr.

“Fi’n credu bydd Gethin yn gwneud yn dda iawn fel hyfforddwr.”