Blog Banner

Amser perffaith i weithio ar yr agweddau hanfodol - Goodfield

Cymraeg | 3rd December 2020


Gyda pythefnos rhwng yr ornest yn erbyn Glasgow Warriors a chychwyn yr ymgyrch Ewropeaidd yn Newcastle, mae’n amser perffaith i garfan Gleision Caerdydd roi eu pennau lawr a gweithio yn galed ar agweddau hanfodol o’u gêm, yn ôl Duane Goodfield.

Gyda chwaraewyr rhyngwladol yn dychwelyd i’r garfan rhanbarthol ar ôl eu gêm yn erbyn Yr Eidal dydd Sadwrn, mi fydd tîm John Mulvihill yn edrych i gychwyn yr ail ran o’u tymor, wrth iddynt gychwyn eu cais am drydydd Cwpan Her Ewrop.

Gyda gemau derbi’r Nadolig hefyd ar y gweill, mae Goodfield yn hyderus y gall ei dîm ymateb ar ôl y siom o golli yn erbyn Glasgow.

“Ni’n edrych ymlaen i’r bois yna ddod yn ôl, a fi’n siwr bod nhw’n edrych ymlaen i ddod yn ôl hefyd,” meddai’r hyfforddwr sgrymiau.

“Gobeithio byddyn nhw’n dod a hyder i mewn i’r garfan a gawn ni edrych ymlaen ar gyfer y gemau yn Ewrop.

“Mae’r tîm eisiau cystadlu a fel carfan ni’n agos at ein gilydd. 

“Mae’n rhaid i ni fod yn well. Ni’n mynd i fod yn gweithio yn galed dros y pythefnos yma, fel ni wastad yn gwneud.

“Mae’n rhaid i ni rhoi perfformiad gwell am yr 80 munud cyfan ni ar y cae, a ni’n gwybod y gallai’r gêm yn erbyn Glasgow wedi mynd i’n ffordd ni.

“Gafodd cais Owen Lane ei dynnu yn ôl, felly roedd hynny’n anlwcus, ond mae’n rhaid i ni barhau i wella gyda’r bêl.

“Ni am edrych yn ôl ar y gêm yna ac edrych yn galed iawn ar ble allwn ni wella. Ni eisiau creu cyfleuon yn hanner y tîm eraill a rhoi nhw dan pwysau.”

Roedd hi’n ornest agos yn erbyn yr Albanwyr yng Nghasnewydd, ond fe wnaeth rhyng-gipiad Huw Jones seilio’r fuddugoliaeth i dîm Danny Wilson.

Mae Goodfield yn mynnu fod rhaid i’w dîm wella wrth drafod y bêl ond mae’n hapus efo’r ymdrech mae’r garfan yn ei roi o wythnos i wythnos.

“Ni’n siomedig iawn. O’n ni wedi gormod o’r bêl, ac felly ddim yn cael cyfle i ymosod,” meddai’r cyn fachwr.

“Wrth gicio’r bêl, roedd Glasgow yn gallu rhedeg yn ôl atom ni’n rhy hawdd a roedd hynny’n rhoi’r pwysau arnom ni.

“O’n ni’n ffili cael digon o’r bêl yn eu hanner nhw i fynd trwy’r cymalau a creu digon o bwysau i groesi’r llinell.

“Roedd hi’n gêm agos a fe wnaeth y bois weithio yn galed. Does dim angen sôn am pa mor galed mae’r bois yn trio, ond mae’n rhaid mwy na’r ymdrech yn unig. Mae angen bod yn well gyda’r bêl, yn enwedig pan ni’n cael cyfle i ymosod o’r llinell neu’r sgrym.

“Ni’n colli’r bêl yn rhy hawdd ar hyn o bryd, yn enwedig ymysg y cefnwyr, a ni’n siomedig iawn.

“Roedd sgrym y ddau dîm yn gryf, a roedd hi’n gystadleuol iawn, a roedd hynny’n golygu bod platfform da i’r timau gael chwarae. Ni’n gweithio yn galed yn yr ardal yna, ac yn y llinell hefyd.”