Blog Banner

Ailadrodd y perfformiad yw'r gamp wythnos yma - Adams

Cymraeg | 20th January 2021


Ailadrodd eu perfformiad yn erbyn y Scarlets nos Wener yw’r gamp i Gleision Caerdydd, meddai Josh Adams.

Serennodd Jarrod Evans wrth i Gaerdydd drechu'r gwyr o Lanelli wythnos diwethaf, gyda Willis Halaholo, Rey Lee-Lo a Tomos Williams yn croesi’r linell gais i seilio’r fuddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Tîm Glenn Delaney yw’r gwrthwynebwyr unwaith eto wythnos yma, gyda’r gêm yn cael ei chynnal ym Mharc y Scarlets, a mae Adams yn credu gall ei dîm gario digon o hyder i mewn i’r ornest.

“O’n ni wedi chwarae yn dda iawn mewn rhannau o’r gêm,” meddai’r seren rhyngwladol.

“Roedd Jarrod a Tomos wedi cael gêm wych, a roedd hynny’n rhan pwysig o pam fod ni wedi chwarae mor dda.

“Mae’r ddau ohonyn nhw yn bwysig iawn i ni, a roedd lot o bethau yn y gêm o’n ni wedi gwneud yn dda.

“Fe wnaeth y cerdyn coch helpu, wrth gwrs, a ni moen adeiladu a gwella wythnos hyn.

“Os ni’n gallu rhoi perfformiad fel wythnos diwethaf, fi’n credu y bydd pawb mewn lle da dydd Gwener.”

Y gêm yn Llanelli fydd yr ornest cyntaf ers i Dai Young dychwelyd i Barc yr Arfau fel cyfarwyddwr rygbi dros dro, gyda John Mulvihill wedi gadael oherwydd rhesymau personol.

Mae Adams yn edrych ymlaen i weld dylanwad y cyn-brop rhyngwladol, wrth iddo edrych am lwyddiant pellach gyda’r rhanbarth, ar ôl ennill Cwpan Her Ewrop a Cwpan EDF Energy yn stod ei gyfnod cyntaf gyda'r clwb.

“Mae fe wedi bod mewn gyda ni ers wythnos nawr. Wythnos diwethaf, oedd e ddim ar y cae gyda ni rhyw lawer, ac oedd e’n edrych dros y ffordd roedd popeth yn rhedeg,” ychwanegodd Adams.

“Roedd e’n edrych ar y ffordd roedd hyfforddwyr yn cymryd y sesiynnau, y ffordd ni’n ymarfer a pa fath o amserlen sydd gyda ni.

“Mae e wedi cael wythnos i wneud hynny, a nawr ni’n gwybod y bydd e ar y cae ac yn rheoli lot mwy.

“Fi’n credu bydd e’n beth da i ni. Roedd e wedi cael lot o lwyddiant pan oedd e gyda’r clwb 10 mlynedd yn ôl.

“Roedd carfan wych gyda fe, roedd y rygbi yn wych a mae e wedi cael lot o brofiadau da lan yn Wasps.

“Fe wnaeth e’n wych lan ‘na dros y naw mlynedd diwethaf a fel carfan mae pawb yn gyffrous i weld Dai yn ôl.

“Ni’n edrych ymlaen at y misoedd nesaf i weld sut bydd e’n setlo i mewn a sut byddwn ni’n gwneud fel carfan.”