Blog Banner

10 o'r rhanbarth i wisgo'r crys coch dros y penwythnos

Cymraeg | 14th March 2019


Bydd 10 o chwaraewyr Gleision Caerdydd yn cynrychioli timau Cymru dros y penwythnos, wrth i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddod i ben gyda Iwerddon yn ymweld â Chaerdydd a Bae Colwyn.

Cymru v Iwerddon (Stadiwm y Principality, Caerdydd; Dydd Sadwrn, Mawrth 16, CG 2.45yh)

Mae Warren Gatland wedi cadw ffydd yn y 23 a drechodd Yr Alban wythnos diwethaf, gyda'i dîm yn anelu am y Gamp Lawn yn erbyn y Gwyddelod.

Mae hyn yn golygu fod Josh Navidi a Gareth Anscombe yn cadw gafael ar eu lle yn y XV cyntaf, tra fod y prop, Dillon Lewis, wedi ei enwi ar y fainc am y pedwerydd gêm yn olynol.

Navidi, ynghyd â Liam Williams, Jonathan Davies a Josh Adams, yw'r unig chwaraewyr i gychwyn pob gêm yn yr ymgyrch eleni, tra fod Anscombe wedi chwarae ei ran yn y pum ornest, gan ddod o'r fainc yn yr ail gêm yn Yr Eidal.

Dyma fydd y tro olaf i Warren Gatland arwain Cymru mewn gêm Chwe Gwlad, gyda Wayne Pivac yn barod i gymryd yr awenau yn dilyn Cwpan y Byd yn Siapan nes ymlaen yn y flwyddyn.

Cymru: Liam Williams (Saracens); George North (Gweilch), Jonathan Davies (Scarlets), Hadleigh Parkes (Scarlets), Josh Adams (Worcester Warriors); Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd), Gareth Davies (Scarlets); Rob Evans (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Adam Beard (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch, capt.), Josh Navidi (Gleision Caerdydd), Justin Tipuric (Gweilch), Ross Moriarty (Dreigiau)

Eilyddion: Elliot Dee (Dreigiau), Nicky Smith (Gweilch), Dillon Lewis (Gleision Caerdydd), Jake Ball (Scarlets), Aaron Wainwright (Dreigiau), Aled Davies (Gweilch), Dan Biggar (Northampton Saints), Owen Watkins

Merched Cymru v Merched Iwerddon (Parc yr Arfau, Caerdydd; Dydd Sul, Mawrth 17, CG 1.30yh)

Bydd Merched Cymru yn gobeithio gorffen eu ymgyrch Chwe Gwlad ar nodyn uchel, wrth iddyn nhw groesawu Iwerddon i Barc yr Arfau brynhawn dydd Sul.

Yn dilyn buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Yr Alban wythnos diwethaf, mae gan tîm Rowland Phillips gyfle i neidio uwchben eu gwrthwynebwyr i'r pedwerydd safle yn y tabl.

Mae dwy o chwaraewyr Gleision Caerdydd wedi eu henwi ar y fainc ar gyfer y gêm, wrth i i'r prif hyfforddwr wneud dau newid i'r pymtheg sydd yn cychwyn.

Mae'r maswr Robyn Wilkins yn disgyn i'r fainc, i wneud lle i Elinor Snowsill, tra bod Alisha Butchers, sydd yn swyddog rygbi merched gyda Sefydliad Cymunedol Gleision Caerdydd, wedi cael ei henwi yn y rheng ôl.

Mae'r blaen-asgellwr ifanc, Manon Johnes, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Glantaf, wedi cadw ei lle ymysg yr eilyddion.

Mae tocynnau ar gyfer yr ornest ar gael nawr o wefan tocynnau Gleision Caerdydd.

Merched Cymru: Lauren Smyth (Gweilch); Jasmine Joyce (Scarlets), Hannah Jones (Scarlets), Lleucu George (Scarlets), Jess Kavanagh (RGC); Elinor Snowsill (Bristol Bears), Keira Bevan (Gweilch); Caryl Thomas (Dreigion), Carys Phillips (Gweilch, capt.), Amy Evans (Gweilch), Gwen Crabb (Gweilch), Mel Clay (Gweilch), Alisha Butchers (Scarlets), Bethan Lewis (Dreigiau), Siwan Lillicrap (Gweilch)

Eilyddion: Kelsey Jones (Gweilch), Cara Hope (Gweilch), Cerys Hale (Dreigiau), Alex Callender (Scarlets), Manon Johnes (Gleision Caerdydd), Ffion Lewis (Scarlets), Robyn Wilkins (Gleision Caerdydd), Lisa Neumann (RGC)

Cymru dan-20 v Iwerddon dan-20 (Stadiwm Zip World, Bae Colwyn; Nos Wener, Mawrth 15, CG 7.05yh)

Mae gan dîm dan-20 Cymru gyfle i ddod a gobeithion y Gwyddelod o gipio'r Gamp Lawn i ben, wrth i'r ddau dîm fynd ben-ben a'i gilydd ym Mae Colwyn nos Wener.

Ar ôl colli yn erbyn Yr Alban wythnos diwethaf, nid yw hi'n bosib i'r Cymry gipio'r Bencampwriaeth, ond mae modd iddynt orffen yn yr ail safle, gan ddibynnu ar ganlyniadau Lloegr a Ffrainc.

Mae'r prif hyfforddwr, Gareth Williams, wedi gwneud saith newid ar gyfer yr ornest, gyda Sam Costelow yn cael ei gyflwyno i'r crys rhif 10 a Cai Evans yn symud i safle'r cefnwr.

Mae hyn yn golygu fod Ioan Davies o academi Gleision Caerdydd yn chwarae ar yr asgell am y tro cyntaf. Mae Teddy Williams a Ben Warren hefyd yn cadw eu lle yn y pac, gyda Ioan Rhys Davies a Max Llewellyn yn ymddangos ar y fainc.

Cymru dan-20: Cai Evans (Gweilch); Tomi Lewis (Scarlets), Tiaan Thomas-Wheeler (Gweilch), Aneurin Owen (Dreigiau), Ioan Davies (Gleision Caerdydd); Sam Costelow (Leicester Tigers), Dafydd Buckland (Dreigiau); Rhys Davies (Gweilch), Dewi Lake (Gweilch, capt), Ben Warren (Gleision Caerdydd), Ed Scragg (Dreigiau), Teddy Williams (Gleision Caerdydd), Ellis Thomas (Llanelli), Jac Morgan (Aberavon / Scarlets), Iestyn Rees (Scarlets)

Eilyddion: Will Griffiths (Dreigiau), Tom Devine (Dreigiau), Nick English (Bristol Bears), Jac Price (Scarlets), Ioan Rhys Davies (Gleision Caerdydd), Dan Babos (Dreigiau), Max Llewellyn (Gleision Caerdydd), Ryan Conbeer (Scarlets)