Blog Banner

Gemau cyfeillgar yn rhoi blas o'r hyn sydd i ddod yn Ewrop - Williams

9th August 2018


Mae Lloyd Williams yn credu y bydd y gemau cyfeillgar yn erbyn Leicester Tigers a Exeter Chiefs dros y pythefnos nesaf yn eu paratoi ar gyfer y sialens sydd o'u blaenau yng Nghwpan y Pencampwyr eleni.

Mae tîm John Mulvihill wedi cael eu rhoi yn yr un grwp â Lyon, Glasgow Warriors a Saracens - sydd wedi ennill prif gystadleuaeth Ewrop ddwywaith.

Mae’r mewnwr, sydd wedi ennill 28 o gapiau dros Gymru, yn mynnu y bydd y gemau nesaf yn gyfle i’r tîm adeiladu momentwm cyn gêm agoriadol y tymor yn erbyn Leinster ar Awst 31.

“Pan ni’n dod i fyny yn erbyn timau fel Saracens yn Cwpan Ewrop, byddwn ni wedi cael blas o’r hyn sydd i ddod oherwydd y gemau yma,” meddai Williams.

“Mae pawb yn edrych ymlaen at rhain, er mwyn ceisio creu argraff ar John a’r hyfforddwyr eraill. Bydd y perfformiad ddim yn berffaith, ond dyma yw pwrpas gemau yma. Mae’n bwysig, erbyn y gêm gyntaf yn erbyn Leinster gartref, ein bod ni ar dop ein gêm.

“Mae pawb yn ceisio rhoi eu hunain yn y safle gorau posib i chwarae yn y gêm agoriadol a dyna beth fydd y nôd yn ystod y gemau dros y penwythnosau nesaf.

“Ni’n ceisio profi’n ffitrwydd a’n sgiliau er mwyn bod yn barod ar gyfer Leinster. Mae nhw wedi profi dros y blynyddoedd diwethaf pa mor gryf mae nhw’n gallu bod.

Mae Williams, sydd wedi gwneud 169 o ymddangosiadau dros y rhanbarth, yn rhan o grwp arweinyddiaeth y garfan, sydd yn cynnwys 10 aelod, gan gynnwys y capten newydd, Ellis Jenkins.

Mae’r mewnwr hefyd wedi datgelu fod y garfan yn mwynhau eu profiadau cynnar o weithio gyda’r tîm hyfforddi newydd, sydd yn cynnwys y prif hyfforddwr, Mulvihill.

Dywedodd Williams: “Mae’r bechgyn wedi mwynhau y cyfnod yma cyn y tymor cyn belled. Mae e i gyd wedi arwain at y gêm yn erbyn Caerlyr dydd Sadwrn.

“Mae’r bois wedi cael hwyl a sbort, a dyna sut mae hi fod. Dwi’n credu bod pawb wedi mwynhau, ond wedi gweithio yn galed yr un pryd.

“Mae John yn ddyn da, a mae e wedi ceisio creu awyrgylch da o fewn y camp, a hyd yn hyn mae e wedi llwyddo i wneud hynny.

“Chwarae teg i’r hyfforddwyr i gyd, mae pobl newydd wedi dod i mewn a mae nhw wedi helpu pethau hefyd.

“Ni’n mynd i fyny i’r cwpan Ewropeaidd arall nawr, a bydd safon y gemau i gyd yn codi ac yn galetach.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n dechrau lle wnaethom ni orffen bant a dyna ni’n ceisio gwneud nawr yn y cyfnod cyn y tymor, yw bod yn barod i wneud hynny.

“Tymor diwethaf, roeddem yn ceisio rhoi pwysau arnom ni fel tim i chwarae yn dda a gwneud pethau yn dda ar y cae. Roeddem ni wedi gwneud hynny, felly yr un pwysau fydden ni’n rhoi ar ein hunain blwyddyn yma.”

Mae tocynnau yn parhau i fod ar gael ar gyfer gêm gyntaf John Mulvihill wrth y llyw, wrth i Leicester Tigers ymweld â Pharc yr Arfau Caerdydd. Cliciwch YMA i ddarganfod mwy.